| Gallaf gofio dyddiau pan oedd yn 11c y litr a dyma ni'n nawr yn edrych ar 45c. I wneud pethau'n waeth fyth mae'n siŵr mewn pymtheg mlynedd arall y byddwn yn hiraethu am yr amser pan oedd dan £1 y litr!
Os gwrandewch ar y newyddion mae'r bai ar Iran, Rwsia neu hyd yn oed economi China. Ond y gwir anffodus yw ein bod yn rhedeg allan o olew a hynny'n gynt na beth mae rhywun yn feddwl. Dim problem medd rhai, fedrwn ni dyfu tanwydd ein hunain rŵan. Gwir, ond mae terfyn ar faint o dir, pridd a dŵr sydd ar y blaned 'ma i dyfu tanwydd. Petai'r holl blaned yn defnyddio'r un faint o adnoddau naturiol a phobl Cymru mi fyddai angen tair planed arnom. Mae'r map o Gymru'n dangos faint o adnoddau Cymru sydd ei angen i gynnal poblogaeth Caerdydd.
Felly beth mae hyn yn olygu i ffermwyr Cymru?
Er mwyn cynhyrchu digon o fwyd i bobl y byd dros y 50 mlynedd nesaf mae rhaid cynhyrchu gymaint o fwyd a sydd wedi ei gynhyrchu dros y deg mil o flynyddoedd diwethaf gyda'i gilydd. O diar! Bydd olew, dŵr a thir yn brin felly ni fydd posib codi cynhyrchiant llawer a bydd yn ddrud iawn i wneud hynny. Mae rhai yn credu y bydd technoleg GM yn helpu ond hyd yn oed OS yw'n gweithio ni fydd yn gallu ateb y broblem. Ar hyn o bryd maen cymryd deg uned o egni tanwydd ffosil i gynhyrchu un uned o fwyd drwy ddefnyddio dulliau amaeth modern. Yn anffodus i ni mae'n cymryd mwy fyth o egni i gynhyrchu cig a llaeth na grawnfwydydd sydd yn golygu y bydd llai o bwyslais ar fagu stoc a mwy ar dyfu cnydau.
Mewn byd lle mae olew yn prinhau bydd prisiau bwyd yn codi yn y dyfodol (gan gynnwys Wyn gobeithio!) ond tydi hyn ddim yn golygu o reidrwydd y bydd incwm yn codi. Y rheswm am hyn yw y bydd prisiau mewnbynnau fel gwrtaith, bwyd a thanwydd yn codi hefyd. Er hyn mae cyfleon i ffermwyr fydd yn gallu ffermio heb neu drwy ddefnyddio llawer llai o fewnbynnau.
Dyma rai o'r newidiadau tebygol yn yr ardal hon
Bydd dal alw am gig ond fe fydd yn gynnyrch 'exclusive' a drud. Ffermydd mynydd neu ucheldir, ble nad oes modd troi, fydd yn cynhyrchu y cig yma. Bydd grawn yn rhy ddrud i'w fwydo i anifeiliaid felly bydd rhaid cadw bridiau cynhenid sydd yn mynd i allu pesgi ar borfa neu ar ychydig iawn o rawn. Bydd llai o alw am wartheg stôr oherwydd bydd ffermydd llawr gwlad yn tyfu cnydau i bobl yn hytrach nac anifeiliaid. Bydd dyddiau y loriau dwysfwyd yn hedfan o gwmpas gogledd Cymru yn prinhau.
Bydd ffermydd ardaloedd sydd yn bennaf yn tyfu porfa, ond yn gallu tyfu rhai math o gnydau, yn mynd yn ôl tuag at ffermio mwy cymysg fel y gwelwyd rhai degawdau yn ôl. Mae'n debyg bydd gwrtaith yn rhy ddrud i'w brynu yn ogystal a bwydydd anifeiliaid. Bydd tyfu grawn mewn cylchdro yn dod yn boblogaidd unwaith eto ond bydd y pwyslais ar werthu'r grawn yn hytrach na'i ddefnyddio i fwydo'r anifeiliaid. Mae'n debyg y bydd yn cymeryd degawdau i ni weld y newid, ond newid fydd rhaid os oes gennym obaith o gynnal poblogaeth y byd. Nid y diwydiant dibwys fydd amaethyddiaeth ond canolbwynt polisïau llywodraethau ar draws y byd. Bydd angen i nifer o bobl ddychwelyd i fyw yng nghefn gwlad er mwyn cynnal y dinasoedd mawr a bydd rhaid trawsnewid y ffordd mae bwyd yn cael ei ddosbarthu a'i becynnu i'r boblogaeth ddinesig. Mewn gwledydd megis Cuba ble maent yn barod wedi addasu i brinder olew mae'r bobl ddinesig yn cynhyrchu cyfran helaeth o'i bwyd eu hunain mewn ffurf llysiau, ieir, cwningod a moch cwta!! Mi fydd merlen mewn 'pony paddock' yn beth prin! Gyda gweledigaeth gan arweinwyr llywodraeth Cymru a undebau amaeth gallwn fod ar flaen y gad mewn creu diwydiant amaeth llewyrchus yn ariannol ac i'r blaned. Y dewis arall yw cario 'mlaen i golli pob ceiniog ychwanegol o'n pocedi i fusnesau mawr y byd tra'n colli cyfle i achub y blaned.
 |