| Mae grwp o fudiadau lleol yn cydweithio i sicrhau bod atgofion am Eisteddfod Genedlaethol Dinbych ar gof a chadw. Mae'r fenter yn rhan ogleddol o'r prosiect Tir Cyffredin (On common ground) sydd yn cael ei ariannu drwy gronfa mynediad Amgueddfeydd ac Orielau Cymru. Yn aelod o'r tîm cynllunio mae staff o Lyfrgell, Amgueddfa ac Oriel Dinbych, Menter Iaith Dinbych-Conwy, Adran Addysg Cyngor Sir Ddinbych, Urdd Gobaith Cymru, Coleg Cymunedol Dinbych, Adda James Castell Bodelwyddan ac Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru. Atgofion Personol Y nôd yw creu cofnod ac archif o atgofion personol pobl yr ardal, deunyddiau gweledol, memorabilia ac yn y blaen a'u cadw fel ffynhonnell ac adnodd lleol a chenedlaethol. Bydd tîm o bobl yn dysgu sut i ddefnyddio technegau aml-gyfryngol er mwyn casglu a chofnodi'r holl wybodaeth a bydd y deunyddiau gorffenedig yn cael eu cyflwyno ar fideos, CD Roms, deunyddiau printiedig, tapiau sain, arddangosion gweledol ac yn y blaen a bydd hyn oll yn creu record parhaol o'r digwyddiad fel y'i gwelwyd trwy lygaid y gymuned leol yn hytrach na thrwy'r cyfryngau. Bydd y prif brosiect yn cael ei redeg rhwng Gorffennaf 29ain ag Awst 17eg (bydd yn rhannol gyd-fynd ac amseriad Eisteddfod Genedlaethol Tŷ Ddewi, Sir Benfro) a bydd y rhai sy'n cymeryd rhan yn y prosiect yn croesawu aelodau o'r cyhoedd i ddod i rannu eu hatgofion gyda hwy.
 |