Rydym yn adnabod Ynyr erbyn hyn fel cerddor brwdfrydig sydd yn canu a chwarae'r piano wrth berfformio...ond y tro hwn mae cyfeiriad newydd i'r gerddoriaeth sydd ar ei ail grynoddisg. Mae'r caneuon yn fwy bywiog ac 'up-beat' o'u cymharu â chaneuon ei grynoddisg gyntaf, Cilfach, sydd yn dangos fod Ynyr yn aeddfedu fel cyfansoddwr, ac mae'n ceisio datblygu a gwella ei gerddoriaeth o hyd. Nid yw Ynyr wedi troi ei gefn yn llwyr ar ganu baledi swynol y tu ôl i'r piano, ond rydym yn sylwi fod yna amrywiaeth iach o fewn y traciau newydd, lle mae Ynyr wedi cymysgu baledi ar y piano gyda chaneuon pop a roc er mwyn ceisio apelio at gynulleidfaoedd gwahanol. Mae Ynyr yn mynd o nerth i nerth fel cerddor, canwr a chyfansoddwr - a newydd ennill £1000 mewn cystadleuaeth ysgrifennu carol ar gyfer cyngerdd Carolau Llangollen 2009 dan nawdd S4C a'r Daily Post.
 |