| yr oeddem yn mynd ymlaen i gystadlu trwy Gymru. Yn y gystadleuaeth yma roedd angen i ni wneud cyflwyniad ar wyth categori: 1) Y Gymuned; 2) Busnesau; 3) PobL Ifanc; 4) PobL Hyn; 5) AmgyLchedd, ac anfon lluniau o leoedd o ddiddordeb o amgylch y pentref. Ar ddydd Sadwrn, Hydref 16eg, 2004 o 10 hyd 12 y bore, daeth pedwar beirniad i ymweld ! ni LIe'r oedd tua 45 o arddangosfeydd wedi eu gosod allan tu mewn a thu allan i'r Ganolfan. Roedd gwahanol grefftau, gwaith dosbarthiadau, digwyddiadau sy'n cymryd lle, gwaith yr ysgol a busnesau i'w gweld. Tywyswyd hwy o amgylch gan y Cyngynghorydd John Hughes, D. Gwynfor Davies (Cadeirydd y Ganolfan a'r Cyngor Cymuned) a'r Cynghorydd Dilwyn Roberts. Roedd Enlli Vaughan yn diddori ar y delyn yn ystod y beirniadu. Cafwyd eitem o ganu gan blant yr ysgol. Yna aethant o gwmpas y pentref i ymweld ag Amgueddfa Y Cwm, Yr Ywen, Yr Eglwys a Chapel Bethabara. Ar ol ychydig o wythnosau, cawsom wybod (a'i gadw'n gyfrinachol) bod angen i ni aiL-wneud yr arddangosfa am y trydydd gwaith am ein bod y tro yma yn mynd ymlaen i gystadlu trwy Brydain. Cawsom ymweliad ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 13eg gan bedwar beirniad gwahanol. Cafwyd eitem ychwanegol y tro yma gan Genod y Gan. Yn dilyn hyn, cafodd D. Gwynfor Davies ac OLwen Evans, Swyddog CyswlIt, wahoddiad i'r seremoni gwobrwyo ar Ragfyr 7fed yng Ngwesty'r Mileniwm yn Llundain. Er nad pentref Llangernyw enillodd y gystadleuaeth drwy Brydain, enillwyd dwy wobr trwy Gymru sef y wobr yng nghategori y 'Bobl Ifanc' a'r gystadleuaeth 'Calor - Pentref y Flwyddyn yng Nghymru 2004'. TeimLwyd gwefr a balchder i ni dderbyn y darian a siec oddi wrth Hugh Fearnley- Whittingstall ynghyd a chynrychiolydd o Calor, ar ran y gymuned yn Llangernyw, ac am y gwaith caled a'r ymdrechion a wnaethwyd er mwyn sicrhau y llwyddiant a ddaeth i'r pentref.
 |