| Daeth yr hen hen daid John Williams o Rossa Fawr i Plas Captain, Peniel, yn 1889, yna cafodd yr hen daid David Williams y denantiaeth; ac yna taid, sef John Emlyn Williams yn 1936. Tro ei ferch, Nerys Davies, oedd hi yn 1969. O 2007 ymlaen parhaodd Emlyn Davies â'r dilyniant di-dor o 118 o flynyddoedd yn ffermio Plas Captain. Yn sicr mae'r patrwm yma yn llawer prinach nag a fu, a hyderwn y pery i'r dyfodol ac y caiff Rhys yr un cyfle rywdro.
 |