| Rydym fel ardal yn llongyfarch Meinir Lloyd Jones, Pen y Bryn, Betws yn Rhos ar ei llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd, Môn eleni. Enillodd y Fedal Ddrama am waith a ysgrifennodd yn dilyn gwrando ar sgwrsio plant ar yr iard yn Ysgol Llannefydd ble mae'n athrawes. Bwriedir darlledu'r ddrama un act fel drama radio ar Radio Cymru. Er mai hon yw'r flwyddyn olaf y caiff Meinir gystadlu yn yr Urdd, dymunwn yn dda iddi gyda'i hysgrifennu yn y dyfodol. Diolch iddi am rannu ei phrofiad â ni y mis hwn (isod). Ymfalchiwn hefyd yn llwyddiant Gwion Williams, Rhosgarnedd, Llansannan wedi dod yn ail nghystadleuaeth Gwobr Goffa Llew. Derbyniodd ganmoliaeth uchel iawn ac fe'i hyfforddwyd gan Miss Jones, ei athrawes drama yn Ysgol y Creuddyn. Ac â'i fryd ar yrfa yn y byd actio, siawns bod hyn yn gychwyn gwerth chweil iddo. Profiad a hannar! Profiad bythgofiadwy i mi oedd cael codi yn y pafiliwn brynhawn Mercher, yn Eisteddfod yr Urdd. Dyna'r ffanffer hiraf i mi ei chlywed erioed!!! Yr oeddwn yn gwybod ers pythefnos fy mod - rywsut?! - wedi ennill y wobr, ond rhaid oedd cadw'r gyfrinach. Fe gefais drafferth cysgu o'r eiliad y cefais wybod. Fu erioed aderyn mor fore ym Mhen y Bryn 'cw! Yr oeddwn ofn am fy mywyd mai camgymeriad oedd y cyfan. Cefais aml i hunllef ble'r oeddwn yn dychmygu fy hun yn gorfod codi wrth weld drama rhywun arall ar y llwyfan i ddweud nad fi a'i hysgrifennodd! Heb sôn am weld fy hun yn mynd tin-dros-ben i lawr y grisiau i'm tynged! Ond, a'r cyfan drosodd bellach, gallaf edrych yn ôl ar y profiad â gwên. Bydd y profiad yn sicr yn un wnaiff aros gyda mi. Yr oeddwn yn hynod o falch o gael cynrychioli Betws yn y gystadleuaeth. Hoffwn fachu ar y cyfle hwn felly i ddiolch o waelod calon i bawb am eu geiriau caredig, eu galwadau a'r holl gardiau yr wyf wedi'u derbyn. Mae hi'n well na Dolig, a phen blwydd efo'i gilydd 'ma! Gobeithio y gwnewch fwynhau'r ddrama, ond gwyliwch, efallai mai chi fydd prif gymeriad fy nrama nesaf!!! Pwy a ŵyr?! Meinir Lloyd Jones
 |