| Sefydlwyd Antur Liwt i gynnig hyfforddiant i blant a phobl ifanc mewn sgiliau perfformio. Ers mis Medi 2001 mae dros gant a hanner o blant a phobl ifanc rhwng 7 ac 18 oed wedi ymuno ag Antur Liwt ac yn cael gwersi wythnosol mewn drama, canu a dawnsio. Maen nhw'n dod o ardal eang ac yn cyfarfod yng Nghanolfan Eirianfa, Dinbych. Mae'r disgyblion wedi eu rhannu yn ôl oedran ac mae'r gwersi'n cael eu cynnal dros bedair noson ar ôl ysgol. Fis Medi bydd cyfle i blant saith oed (blwyddyn 3) gychwyn o'r newydd yn Antur Liwt ac mae'n bosibl y bydd lle i rai hŷn hefyd. Prysur yn diddanu Mae aelodau Antur Liwt wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar. Fe fuon nhw'n dathlu Gwyl Ddewi yn Neuadd y Dref, Dinbych a bu rhai o'r criw hŷn yn diddanu cymdeithas y Cwch Gwenyn yng Nghapel Bethesda, Yr Wyddgrug. Fe fuon nhw hefyd yn cymryd rhan yn rownd derfynol Miwsig Theatr y Flwyddyn yn Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl, tra bu rhai yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug yn gweld Rhyfel Fflora ac eraill yn gweld cwmni dawns byd-enwog Rambert. Fe ddaeth Tara Bethan atyn nhw am ddiwrnod gan hyfforddi'r plant i ddawnsio i gerddoriaeth y grwp CIC, ac yna ym mis Ebrill bu dau arall sy'n arbenigwyr yn eu maes yn ymweld â nhw. Y cyntaf oedd Robat Arwyn, y cerddor a'r cyfansoddwr o Ruthun, sydd hefyd yn un o Lywyddion Anrhydeddus Antur Liwt, a'r ail oedd Cai Tomos, dawnsiwr proffesiynol sy'n hanu o Ddolgellau'n wreiddiol. Paratoi ar gyfer perfformiadau Ar hyn o bryd mae'r disgyblion uwchradd yn paratoi ar gyfer perfformiadau yn Theatr y Pafiliwn, y Rhyl, nos Fawrth, Mehefin 18fed ac yng Ngŵyl Dinbych ddydd Sadwrn, Mehefin 29ain. Yn ystod mis Mehefin hefyd bydd grwpiau oedran cynradd yn diddanu aelodau'r Clwb Strôc, sydd hefyd yn cyfarfod yn Eirianfa, ac ar nosweithiau Llun a Mawrth, Gorffennaf yr 8fed a'r 9fed fe byddan nhw'n perfformio www. antur. com yn Neuadd John Ambrose, Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun.
 |