| Braf oedd croesawu Llywydd y Gadlas sef Melfyn Williams atom i gyflwyno'r tlysau a dymunodd yn dda i'r Gynghrair a llongyfarch y buddugwyr ar eu llwyddiant. Pencampwyr y Gynghrair ac yn ennill cwpan Llaeth y Llan eleni oedd tîm Llan a Bryn gyda 56 o bwyntiau gyda tîm Dinbych a'r Cylch yn ail ac yn ennill tarian Hywel Evans gyda 51 o bwyntiau. Dyma lle gorffennodd gweddill y timau : Llan A : 49; Llangernyw B : 46; Llangernyw A : 41 ; Llan C : 40; Betws: 38; Llan B : 15. Aeth y tlws am y rhediad uchaf i Mathew McBreeze gyda 40 o bwyntiau a llongyfarchiadau iddo. Dyma weddill y canlyniadau Llan A : 5, Llan B : 1; Dinbych a'r Cylch :4,Llangerrnyw B : 2 Llangeryw B : 4, Betws : 2; Llan B : 1, Dinbych a'r Cylch 5;
Mawrth y 9ed :Llangernyw A : 4, Dinbych a'r Cylch : 2; Llan A : 2, Llangernyw B : 4 ; Betws : 1, Llan C : 5; Llan a Bryn : 5 , Llan B : 1;
Llan a Bryn a Llansannan A wynebodd eu gilydd yn ffeinal cystadleuaeth colli sydyn y Gadlas, Llan a Bryn wedi trechu Dinbych A C yn y rownd gyn derfynol a Llan A wedi trechu Llangernyw A yn y rownd gyn derfynol arall a'r sgôr yn y ffeinal oedd Llan A 196,
a Llan a Bryn 242. Felly Llan a Bryn enillodd Darian y Gadlas a llongyfarchiadau mawr iddynt am ennill y ddwy gystadleuaeth a diolch i'r Gadlas am noddi'r gystadleuaeth yma. Yn rownd gyn derfynol y senglau collodd
Daniel Jones o dim Llan A yn erbyn Rhys Williams , Llangernyw A; yn y rownd gyn derfynol arall cafodd Dei Hughes o dim Llan a Bryn y gorau ar Gerallt Davies Llan A.
Felly Rhys a Dei wynebodd eu gilydd yn y ffeinal ac mewn gornest hynod o glos Rhys Williams, pencampwr y llynedd ddaeth yn fuddugol ar y ddu olaf o'r drydydd ffrâm a llongyfarchwn Rhys ar ei lwyddiant. Yn y dyblau trechodd Robert Everiss a Dewi Williams o dim Llangernyw B yn erbyn
Josh a Tony o dim Llan C, ac yn y rownd gyn derfynol arall collodd Glyn a'r mab Bryn o dim Llan a Bryn y gorau ar Rhodri a Dilwyn o dim Dinbych a'r Cylch. Felly Rob a Dewi a Glyn a Bryn wynebodd eu gilydd yn y feinal ar fwrdd Hywel Evans yn y Brwcws a Glyn a Bryn lwyddodd i goncro pencampwyr y llynedd, llongyfarchiadau iddynt, nid dyma'r tro cyntaf iddynt ennill y gystadleuaeth yma.
Diolchodd Cadeirydd y Gynghrair Hywel Evans i bawb am eu cyfraniad i lwyddiant y Gynghrair yn enwedig i'r trysorydd sef Ken Evans a'r ysgrifennydd.
Carem weld rhagor o dimau yn ymuno ac os oes rhywrai a diddordeb gadewch i ni wybod.
 |