Yn aml sonnir bod y glaw wedi peidio rywle islaw Garthewin, ac nid yw'n beth anghyffredin gweld llinell bendant ar y ffordd lle ceir terfyn y glaw. Fe ddywed amryw ohonoch mae'n siwr, mai effaith mynyddoedd Eryri yw hyn. Digon gwir, ond mae mwy i'r stori na hynny.
Mewn byd arall
Erbyn ichi gyrraedd ardal ddwyreiniol bro'r Gadlas a Dyffryn Clwyd, rydych mewn byd arall yn aml o safbwynt y tywydd. Ceir llawer llai o law, mae'r hin yn gynhesach a thymor tyfiant yn hwy.
Fe ddisgwylir hyn yn Nyffryn Clwyd gan fod y tir yn llawer is - mae'r rhan fwyaf o'r dyffryn islaw 50 medr uwch lefel y môr. Ar y llaw arall mae pentref Pandy Tudur oddeutu 250 medr uwchlaw lefel y môr, gan godi i dros 300 medr mewn rhai mannau.
Gan fod tymheredd yn gostwng 1oc gyda phob 100 medr o uchder, dyma wahaniaeth o tua 2oc rhwng y ddwy ardal. Ond fe geir mwy o wahaniaeth na hyn yn y tymheredd yn aml.
Ym mhapur y Times (Gorffennaf 27) roedd erthygl ar y tywydd gan Paul Simons, ac yn honno roedd yn trafod pam fod Dyffryn Clwyd yn cael tywydd mor braf o'i gymharu â rhannau eraill o Gymru.
Amrywiad yn y tymheredd
Ddeuddydd ynghynt cofnodwyd tymheredd o 14.1oC yng Nghapel Curig, tra ym Mhenarlâg roedd yn 20.8oC, ac roedd yr amrywiad yma yn y tymheredd rhwng y ddwy ardal yn llawer mwy na'r hyn a geid oherwydd y gwahaniaeth uchder meddai. (Gyda llaw nid yw Capel Curig ond tua 200 medr uwch lefel y môr.)
Yn ôl Paul Simons y rheswm am y gwahaniaeth yn y tymheredd rhwng Eryri a'r ardaloedd i'r dwyrain yw proses o'r enw föhn.
Fel y chwythir gwynt gwlyb o'r Iwerydd dros Eryri, mae'n gollwng llawer iawn o'r gwlybaniaeth sydd ynddo ar y mynydd-dir.
Yna fel y disgyn y gwynt i'r dwyrain o'r mynyddoedd mae'n cael ei gywasgu a'i gynhesu (nid yn annhebyg i bwmp beic yn cynhesu wrth gael ei ddefnyddio).
Dyffryn Clwyd yn llawer cynhesach
Daw hyn ag awyr glir a thywydd cynhesach a sychach i ogledd-ddwyrain Cymru. Dyma'r rheswm meddai pam fod Dyffryn Clwyd yn llawer cynhesach.
Fe welir yr un broses mewn rhannau eraill o wledydd Prydain, e.e i'r dwyrain o fynyddoedd y Grampian yn yr Alban, neu'r Pennines yn Lloegr.
Ond ceir yr enghreifftiau mwyaf eithafol o hyn yng ngogledd yr Alpau. Gall y föhn yno godi'r tymheredd o 8-11oC. Yn y Swistir mae'n gyfrifol am doddi'r eira yn y gwanwyn ac mae hyn o gymorth i'r amaethwr pan ddiflanna'r eira o'r caeau, ond ar y llaw arall gall fod yn beryglus trwy achosi llithriadau eira.
Yn yr Hydref mae'r gwynt cynnes yn gymorth i aeddfedu'r cnydau, yn arbennig y grawnwin. Yn yr un modd ceir gwynt y Chinook i'r dwyrain o fynyddoedd y Rockies yng Nghanada a'r Unol Daleithiau, a cheir gaeafau mwyn. Ond os yw'r Chinook yn methu, ceir colledion enfawr yn sgil y gaeafau oer.
Felly y tro nesaf y teithiwch rhwng Pandy Tudur a Dyffryn Clwyd, cofiwch chwilio am y llinell ar y ffordd a therfyn y glaw, a gwyliwch os yw'r tymheredd yn codi.
Yn yr un modd, os clywch am lithriad eira yn yr Alpau yn y gwanwyn, cofiwch mai'r föhn sydd ar waith yno hefyd.
Erthygl gan Mererid Jones