Sut wnest ti ddechrau ar dy yrfa fel digrifwr?
Pan oeddwn yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llannefydd. Tuag ugain mlynedd yn ôl roedd yn un o glybiau gorau Cymru, ac yn ystod y cyfnod hwnnw roeddem yn cael ein galw i gynnal llawer o nosweithiau llawen nosweithiau llawen. Cawsom gymorth mawr gan Gwilym Morris, Llechryd a Bryn Williams, Plas Ucha.A oeddet ti'n gwybod yn ifanc iawn dy fod eisiau bod yn ddigrifwr?
Nac oeddwn, ond roeddwn wrth fy modd yn gwneud i bobl chwerthin. Wnes i erioed feddwl y buaswn i yn bod yn ddigrifwr fodd bynnag.
A wyt ti yn mynd yn nerfus cyn perfformio, a sut wyt ti'n rheoli dy nerfau?
Mi fyddaf yn mynd yn nerfus, yn enwedig rhyw chwarter awr cyn mynd ar y llwyfan. I ddweud y gwir mi fyddaf yn llawer mwy nerfus yn perfformio gerbron cynulleidfa o ddeg o bobl, o'i gymharu â chynulleidfa o bump i chwe chant. Y peth gorau i reoli nerfau ydi paratoi yn drwyadl.
Beth sy'n gwneud cynulleidfa dda?
Chwerthinwyr da! Merched ydi'r rhai gorau, mae un ddynes sy'n chwerthin yn uchel yn werth tua hanner cant o rai eraill. Fel rheol y cynulleidfaoedd gorau ydi'r rheini o'r un cefndir â fi.
Pwy ydi dy hoff ddigrifwr?
Jethro o Gernyw, mae o'n arbennig o dda. Fy hoff gomediwyr o Gymru oedd y diweddar Charles Williams a Gari Williams. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael fy nysgu gan fab Charles Williams, Idris, a brawd Gari, Elwyn, tra'n gweithio ar y rhaglen Jocars.
Lle ydi'r lle mwyaf diddorol i ti berfformio ynddo?
Yn stiwdios Barcud, Caernarfon bedair blynedd yn ôl pan gefais y fraint o arwain Noson Lawen yn fyw ar S4C ar Nos Calan.
Sut mae hogyn Bryn Deunydd yn cael deunydd newydd ar gyfer ei sioe?
O lyfrau a fideos, ond hyd yn oed wedyn does yna ond rhyw un neu ddwy o jôcs newydd ynddyn nhw.
Pa fath o sioe fyddi di'n hoffi ei gwneud fwyaf?
Heb os, Noson Lawen draddodiadol, lle mae pobl yn eistedd a gwrando. Er hynny mae nosweithiau llawen fodd bynnag yn mynd yn brinnach, a nosweithiau mewn tafarndai neu glybiau sydd fwyaf poblogaidd erbyn hyn.
Sut wyt ti'n ymlacio?
Chwarae gyda'r plant a gwylio pêl droed .
Beth ydi dy hoff fwyd?
Steak a chips a chwstard a riwbob i bwdin.
Ble mae dy hoff le?
Top caeau Bryn Deunydd lle mae posib gweld yr arfordir o'r Rhyl i Brestatyn tua'r gogledd ac yna holl Ddyffryn Clwyd i'r de.
Beth sy'n dy wylltio fwyaf?
Gyrwyr sydd ddim yn mynd yn ôl i wneud lle ar ffordd Pen Bont, pan fydd hi'n llawer nes iddyn nhw symud yn ôl!
A wyt ti'n wleidyddol gywir ac a oes yna fath o jôcs na fyddi di yn eu dweud?
Tydw i ddim yn wleidyddol gywir, ond wnâi fyth ddweud jôc hiliol na jôc am yr anabl.
A oes gen ti jôc i'w rhannu efo ni?
Nag oes, rhaid i chi wylio'r gyfres newydd ar S4C!
Pryd fydd dy gyfres newydd Da di Dil de? yn cael ei darlledu?
Dechrau'r flwyddyn gobeithio!