| Mae 2005 yn nodi hanner can mlwyddiant sefydlu'r Undeb. Mae hi ond yn iawn ein bod, yn ystod blwyddyn y dathlu, yn talu teyrnged i'n cyndadau a oedd yn meddu ar ragwelediad anferthol wrth sefydlu'r unig undeb amaethyddol annibynnol yng Nghymru. Roedd y blynyddoedd cynnar yn rhai anodd iawn i'r Undeb newydd. Bu'n rhaid i UAC frwydro pob cam o'r ffordd er mwyn sefydlu'i hun fel y prif undeb amaethyddol yng Nghymru. Diolch i ymgyrchu diflino'r aelodau a'r staff, enillodd yr Undeb barch ffermwyr ledled y wlad yn fuan, gan gyrraedd uchafbwynt wrth i ni dderbyn cydnabyddiaeth swyddogol gan y Llywodraeth yn 1977, a lle wrth y bwrdd ymgynghori. Roedd y gydnabyddiaeth honno yn fuddugoliaeth haeddiannol i'r Undeb, ac fe'n galluogodd i ddatblygu i fod yr hyn sydd bellach yn sefydliad amaethyddol mwyaf pwerus Cymru.Hanner can mlynedd wedi'r cyfarfodydd cyntaf yn Sir Gaerfyrddin, mae gan UAC brif swyddfa ragorol yn Aberystwyth a rhwydwaith o 12 o swyddfeydd eraill trwy Gymru - oll wedi eu staffio gan dîm ymroddedig o weithwyr proffesiynol. Mae'n bleser gennym adrodd i'r Undeb agor dwy swyddfa newydd dros y flwyddyn ddiwethaf, yn arbenigo mewn cynnig gwasanaeth yswiriant, yn Llanrwst a Phorthmadog. Mae hyn yn profi heb amheuaeth fod UAC yn sefydliad sy'n edrych i'r dyfodol a'n bod yn parhau i dyfu er mwyn cwrdd ag anghenion ein haelodau. Ar yr un pryd mae ein henw da fel sefydliad ymgyrchu yn parhau. Rydym yn llongyfarch y cogydd enwog Jamie Oliver ar ei gyfres deledu wych a ddatgelodd y flaenoriaeth isel a'r diffyg arian a roir i brydau ysgol. Dyma bwnc sy'n agos iawn at galon UAC a rhywbeth a bwysleisiwyd gennym ers nifer o flynyddoedd, ar y cyd ag arbenigwyr maeth o ystod eang o sefydliadau eraill a chefnogaeth gan drawstoriad o bleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol. Yn wir, yn ystod y Sioe Frenhinol y llynedd, cynhaliodd yr Undeb gynhadledd i'r wasg ar y cyd â'r Athro Kevin Morgan o Brifysgol Caerdydd er mwyn amlygu sefyllfa druenus rhai ciniawau ysgol a'r ffaith fod rhai awdurdodau lleol ond yn gwario 37c ar gynhwysion y prydau hyn. Mae UAC yn ymgyrchu hefyd er mwyn arbed ein hysgolion bach rhag cael eu cau. Rydym wedi ymuno a phum sefydliad arall er mwyn herio cynlluniau a allai olygu cau cannoedd o ysgolion pentref dros y ddegawd nesaf, gan rwygo'r calonnau o gymunedau ledled y wlad.Mae ymgyrch yr Undeb yn erbyn y masnachu anghyfreithlon mewn 'smokies' hefyd yn parhau. Mae UAC yn cydweithio â'r Asiantaeth Safonau Bwyd er mwyn ceisio darganfod os oes modd cynhyrchu smokies yn gyfreithlon ac yn lanwaith mewn lladd-dai trwyddedig. Mae marchnad i'r cynhyrchion hyn, heb os, a bu UAC yn cydweithio a'r awdurdodau ers 2001 er mwyn canfod modd o'u cynhyrchu yn gyfreithlon fel bod modd i bob ffermwr yng Nghymru fanteisio. Gareth Wyn Jones, Undeb Amaethwyr Cymru
 |