Roedd mynd ar daith i Batagonia yn rhywbeth yr oedd gennyf wastad eisiau ei wneud, felly pan ofynnodd ffrind i mi os oedd gen i awydd mynd hefo nhw ac ychydig o ffrindiau, nid oedd rhaid iddo ofyn ddwywaith.
Felly, ar ddydd Sul, Hydref 26 llynedd, cychwynnodd naw ohonom ar y trên o Gaer i Lundain ac aros yn Llundain am noson am fod yr awyren yn cychwyn yn gynnar. Dal awyren o Heathrow a thrafeilio am ryw dair awr i Madrid, dal awyren arall o Madrid a hedfan am ryw 11 awr arall i gyrraedd Buenos Aires.
Cawsom ddiwrnod i weld dinas hardd Buenos Aires ddydd Mawrth a rhai o'r uchel bwyntiau oedd dwy eglwyd hardd a mynwent o tua naw acer o faint lle mae Efa Peron wedi ei chladdu mewn bedd hardd, os oes y fath beth. Mynd i sioe tango gyda'r nos lle'r oedd y dillad a'r dawnsio yn anhygoel.
Hedfan allan o Buenos Aires fore Mercher a thrafeilio am ryw ddwy awr i gyrraedd Trelew. Hyfryd oedd gweld y Ddraig Goch yn chwifio a'r gair 'Croeso' wedi ei ysgrifennu yn fawr ar adeilad yn y maes awyr.
Trafeilio wedyn hefo bws i gyrraedd Port Madryn, tir diffaith iawn yn fan hyn, hefo ambell i ddafad i'w gweld yma ac acw ar y ffordd. Roedd ein tywysydd, Andreas Roberts (ei deulu'n wreiddiol o Lanuwchllyn), yn dangos i ni lle'r oedd dyn o'r enw Joseff, a oedd ar un adeg yn gweithio yng Ngwasg Gee yn Ninbych, wedi bod ar goll am ddyddiau, a sut y medrodd ffeindio ei ffordd eto oedd trwy adeiladu tomen fawr o bridd er mwyn iddo gael sefyll arno i weld lle'r oedd y môr - mae'r domen yn dal yma heddiw.
Dydd Iau, mynd i fferm o'r enw Estancia Guillerro. Roedd y ffermwr yma wedi arallgyfeirio am ddau reswm - y rheswm cyntaf oedd bod ei dir i gyd ar wahân i'r ty wedi mynd ar dân tua phum mlynedd yn ôl, a'r ail reswm oedd fod llawer iawn o gŵn ym Mhort Madryn ac un noson fe laddodd y cŵn 400 o'i ddefaid - rheswm da dros arallgyfeirio. Maent yn awr wedi adeiladu siediau mawr ac yn gwneud bwyd i bobl fel ni i'w fwynhau, ac yma y cawsom ni ein Asado cyntaf ym Mhatagonia. Mae Asado fel barbeciw ond yn coginio oen cyfan.
Ar ôl y cinio cawsom arddangosfa o gneifio defaid Merino, a'n tywys ychydig o amgylch y fferm. Wedyn, trafeilio yn ôl i Bort Madryn a mynd i weld lle'r oedd y Cymry cyntaf wedi glanio o'r Mimosa yn 1865, a'r ogofau yr oeddynt wedi byw ynddynt am rai wythnosau ar ôl cyrraedd - ogof oedd prin ddigon mawr i ddau berson ond yn cysgu 17 o bobl ar adegau. Difyr iawn oedd mynd i'r amgueddfa a gweld y gwahanol ardaloedd yn y gogledd yr oedd y mwyafrif o'r teithwyr cynnar wedi cychwyn ohonynt.
Dydd Gwener, cawson fore rhydd i gerdded i'r dre cyn hedfan i Esgel. Wrth gerdded i lawr y stryd, gofynnodd dyn i ni 'Ydach chi'n siarad Cymraeg?' Ei enw oedd Robert Owen Jones a roedd yn wreiddiol o Benygroes, Sir Gaernarfon, bellach yn byw yng Nghaerdydd, ond am bedwar mis o bob blwyddyn mae'n mynd drosodd i Batagonia i arolygu ysgolion. Yn rhyfedd iawn, gwelsom o eto ddydd Sul pan oedd yn pregethu yng Nghapel Moriah yn y Gaiman.
Hefan am Esgel yn y prynhawn, a chyrraedd maes awyr nad oedd lawer mwy na chanolfan cymuned Tanyfron! Cael ein cyfarfod gan Monica Roberts, un o drefnwyr ein taith, yn ferch o Batagonia, hefo Cymraeg ardderchog ac wedi priodi â bachgen o Ruthun, sef Gwyn.
Bws wedyn o Esgel i'r Gaiman lle roeddem i aros am y pum noson nesaf, ac i ddechrau siarad Cymraeg o ddifrif am y pythefnos nesaf gyda thrigolion Patagonia.
Roedd y tywydd wedi newid yma, tipyn yn oerach, ond y tiroedd yn llawer glasach. Ar ddydd Sadwrn aethom i weld fferm o'r enw Bod Iwan lle'r oedd Gerallt Williams, oedd yn 82 mlwydd oed, yn ffermio hefo'i fab, Waldo, a'i wraig a'r plant, Gareth ac Iwan. Buont yn dangos i ni sut roedd eu ffosydd dŵr yn gweithio i ddyfrio'r tir.
Ei brif wair oedd Alfalfa a dyfai i'w gwartheg a'i ddefaid, a gwerthai llawer ohono hefyd am bris o tua £4 y bêl bach yn 2007. Mae llawer o'r ffermydd yn y fan hyn yn reit fychan a'r ffermwyr yn gwneud gwaith arall ar wahân i ffermio, a dyna oedd hanes Waldo. Ar ôl gweld y fferm, aethom i'r tŷ i gael y te Cymraeg mwyaf bendigedig a welsoch yn cynnwys pob math o gacennau cartref.
Symud ymlaen wedyn i fferm Aldwyn Brunt a'i fam, Margaret Griffiths - dyma wahaniaeth arall rhyngddynt a ni. Tydi'r wraig byth yn newid ei chyfenw ar ôl priodi, mae'n debyg am fod ganddynt eisiau cofio eu gwreiddiau. Roedd fferm Aldwyn yn fwy o dyddyn yn cadw tipyn bach o bopeth - hwch neu ddwy, ambell i lo yn grog o siaen hir, amgueddfa fach o hen bethau fel celfi ceffylau a hen, hen gar. Roedd Aldwyn wedi lladd 6 mochyn dau fis oed y diwrnod cynt, fase fo ddim yn para yn hir hefo rheolau Cymru, ond ar ôl dweud popeth, roedd y croeso yn fawr. A cyn i ni adael, aeth Aldwyn â ni i weld capel bach Cymraeg Glan Alaw oedd erbyn hyn ddim ond yn cyfarfod unwaith y mis hefo tua 20 o bobl yn mynychu.
Brynhawn dydd Sul aethom am dro ar y bws trwy Bryn Gwyn, Dorfa Dulog, ac i weld Capel Moriah ac i gerdded o amgylch y fynwent gan ddarllen rhai o'r cerrig beddi er mwyn gweld tarddiad y rhai a gladdwyd. Daethom ar draws y pennill yma:
Cofia Frawd wrth fyned heibio
Fe rwyt tithau finnau fuodd
Fel rwyf finnau tithau fyddi
Cofia frawd marw rhaid iti.
Dyna yn hollol sut yr oedd y pennill wedi ei ysgrifennu. Cyrraedd yn ôl i'r Gaiman a mynd i Gapel Moriah i wrando ar Robert Owen Jones yn pregethu, a chael croeso mawr yno.
Dydd Llun, mynd i fferm Bobi Jones a'i wraig Mrs Roberts. Mae teulu Bobi Jones yn dod o'r Rhyl, felly Rhyl yw enw'r fferm. Maent yn pesgi gwartheg ar y fferm, a chadw dros fil o wartheg (wedi eu prynu i mewn yn rhyw 6-8 mis oed am tua £250 yr un), mewn peniau agored ac yn eu pesgi ar ddwysfwyd i gyd.
Dydd Mawrth, ein diwrnod ola', cyn croesi'r Paith a mynd eto hefo'r bws i gyfeiriad Bethesda a Thir Halen. Gwelsom olygfeydd ardderchog cyn mynd ymlaen i Dolavon i weld hen felin oedd wedi cael ei phrynu o'r Amerig yn 1885 ac wedi cymryd dwy flynedd i'w hadeiladu. Mae'n dal i weithio heddiw a chawsom basta wedi ei wneud o'r blawd yn eu tŷ bwyta. I ddiweddu'r diwrnod, galwasom i mewn i ysgol yn Dolavon ac er bod hon yn ysgol reit newydd roedd hi yn edrych yn dlawd iawn, a'r offer yn brin iawn i gymharu ag ysgolion yng Nghymru. Felly, i orffen, dwi'n meddwl bod gennym lawer i ddiolch amdano yng Nghymru.