Cyn cychwyn darllen - chwiliwch am atlas!
Roedd y cyfle i ymweld ag India gyda fy merch, Gwennan, yn gyfle rhy dda i'w golli. Y bwriad oedd ymweld â Meghalaya yng ngogledd-ddwyrain India. Astudiodd Gwennan Genhadaeth y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yn yr ardal honno, gwaith y cenadesau, a chefnogaeth Cymdeithas y Chwiorydd o fewn yr eglwysi yng Nghymru. Ardal Shillong oedd un o brif orsafoedd y Genhadaeth. Mae Meghalaya ychydig uwchben Bangladesh ac yn ardal sydd yn adnabyddus i lawer yng Nghymru fel 'Bryniau Khasia' - sef yr ardal lle bu'r genhadaeth Bresbyteraidd mor ddylanwadol.
Roedd cyrraedd India yn un peth - a chyrraedd Meghalaya yn rywbeth arall. Ar ôl hedfan i Delhi roedd angen hedfan am ddwy awr a hanner arall i Guwahati ac yna taith mewn tacsi am dros dair awr ar i fyny ar hyd lôn droellog, cul a mewn mannau yn ansafonol iawn. Taith mewn tywyllwch i gyrraedd prifddinas Meghalaya, Shillong, sydd 1500 metr uwchlaw'r môr (tipyn yn uwch na'r Wyddfa!).
Dau beth sy'n sefyll allan yn y cof, heblaw am y ffordd droellog. Yn gyntaf cannoedd a channoedd o loriau yn teithio'r ddwy ffordd - 10 lori am bob un cerbyd arall, a phob un o'r loriau wedi ei paentio'n lliwgar i adlewyrchu diwylliant, iaith a chredoau'r gyrwyr. Er y tywyllwch roedd hyn yn drawiadol amlwg. Yn ail, y dulliau diddorol ac anghydffurfiol o yrru gan fanteisio ar bob cyfle, er gwaetha'r peryglon, i fynd heibio cerbydau eraill. Roeddem yn falch o gyrraedd y gwesty!
Un o 29 talaith yn India yw Meghalaya. Mae gan bob talaith yn India eu llywodraethau etholedig eu hunain ac mae gan Meghalaya boblogaeth, iaith, diwylliant a chrefydd sydd yn dra gwahanol i rannau eraill o'r India. Yn wir roedd y rhai wnathom gyfarfod yno yn gweld eu hunain yn bobl gwahanol iawn i weddill yr India. Doedd dim problem egluro mai Cymry oeddem - roedd Cymru a'r Cymry yn adnabyddus i bawb. Yn ardal Shillong, y Cymry yn anad neb arall a gyflwynodd iddynt Gristnogaeth, ysgolion, ysbytai ac iaith ysgrifynedig y Khasi. Rhyfedd o beth oedd ymweld â mynwentydd, colegau, ysgolion, ysbytai a chartref plant amddifad lle bu dylanwad y Cymry yma mor amlwg.
Roedd Thomas Jones, un o'r cenhadon cynnar, ac yn wreiddiol o'r Berriew, yn arwr i bawb oherwydd ef a drosglwyddodd iaith lafar Khasi i iaith ysgrifynedig. Roedd gweld cerrig beddi gydag enwau Cymraeg fel Annie Thomas, Annie Williams, John Pengwern Jones a Gordon Roberts mewn rhan mor anghysbell o'r byd yn brofiad od iawn. Cawsom y fraint o gyfarfod rhai pobl oedd wedi adnabod rhai o'r cenhadon cynnar a chawsom brofiadau cofiadwy eraill.
Buom mewn gwasanaeth Khasi un o'r Eglwysi Presbyteraidd gyda 3000 o bobl - nifer arferol y gwasanaethau cyhoeddus yn yr eglwys honno yn amrywio o 3000 i 5000. Gwasanaeth a barhaodd dros ddwy awr gyda grŵp trydan a chôr o bobl ifanc yn diddanu cyn cychwyn yr oedfa. Ninnau yn gwrando ar weddiau a phregethu diwygiadol eu naws mewn iaith nad oeddem yn ei ddeall, ond yn canu emynau ar donau a oedd yn gyfarwydd iawn i ni. Tro arall yn ymweld â chartref i blant amddifad a chael ein cyfarch gan 30 o ferched ifainc yn canu 'Pwy wnaeth y sêr uwchben?'.
Wedyn, ar y pegwn arall, aros mewn gwesty 'treftadaeth', cyn-gartref y Rajah (brenin) a chlywed mai dyna lle roedd y sêr pop gorllewinol yn aros pan fyddent yn perfformio mewn cyngherddau yn Shillong - Bryan Adams a'r Scorpions i enwi ond dau. Gwesty Fictorianaidd ym mhob ystyr y gair, o wisgoedd y rhai oedd yn gweini i'r lluniau ar y muriau a'r celfi.
Un peth oedd yn sefyll allan fodd bynnag oedd caredigrwydd diymhongar ein cyswllt yn Shillong. Bu Dr Blatei Nongbri yn ymweld â Chymru rhai blynyddoedd yn ôl tra roedd yn astudio hanes y cenhadon o Gymru. Roedd ei ofal ohonom trwy gydol yr amser y buom yno yn cyffwrdd â'r galon. Do, gwelsom bethau a llefydd diddorol, gwelsom dlodi a chyfoeth a gwelsom y gwisgoedd traddodiadol a'r hysbysebion ffonau symudol modren ochr yn ochr a'i gilydd. Gwelsom dirlun a ffyrdd o fyw amrywiol a thu hwnt o ddifyr. Uwchlaw'r cyfan saif y croeso cynnes yn gadarn yn ein côf.