Wyddoch chi bydd 'Cynllun Archif Dinbych' wedi ei lansio yn Llyfrgell Dinbych, Medi 12-13 yn ystod penwythnos treftadaeth? Mae'r grwp yn cyfarfod yn y llyfrgell pob pnawn Llun rhwng 2 a 4 o'r gloch ac ar fore Sadwrn cyntaf pob mis rhwng 10 a 12. Cynllun ydi hwn sydd wedi ei lunio i gofnodi hanes teuluol ar gyfer y dyfodol. Maent yn edrych am hen luniau teuluol, llythyrau a phethau cofiadwy eraill am fwyd ac amseroedd Dinbych, sydd hwyrach ganddoch yn eich cartref neu swyddfa. Am fanylion pellach cysylltwch â Medwyn Jones, Clerc y Dref ar 01745 815984. Rydym newydd ddathlu 20 mlynedd fel llyfrgell yn yr adeilad hyfryd yma - Medi 1989 - Medi 2009. Ble aeth yr amser dudwch? Arddangosfeydd
Prif Oriel: Darluniau gan Glen Ibbitson (19/09/09 - 07/11/09).
Arddangosfa fechan: hanes Ysbyty Meddwl Gogledd Cymru.
Oriel Llyfrgell y Plant: arddangosfa gan blant ysgol Frongoch, Dinbych, o fis Hydref tan y Nadolig. Plant
Mae'r cynllun haf wedi bod yn llwyddiant ysgubol eto eleni, gyda dros 600 o blant y fro yn ymuno i fod yn 'Chwilwyr'. Braf iawn yw gweld y llyfrgell plant yn llawn bwrlwm a phlant yn mwynhau darllen. Pleser bydd dod i'r ysgolion ym mis Hydref gyda medalau i'r rhai sydd wedi cwblhau'r sialens ac wedi ymweld â'r llyfrgell a darllen beth bynnag 6 llyfr dros yr haf. Llyfrau
Mae nifer o deitlau newydd Cymraeg wedi dod i stoc yn ddiweddar, yn dilyn yr Eisteddfod - galwch mewn i'w benthyg.
 |