Tystiolaeth awgrymog oedd yma, fod newid ar droed, a bod lle i'r eglwys baratoi i ymateb pan ddaw galwad iddi wneud. Mewn ystyr arall, dewis o ddwy gymdeithas a gafwyd gan ofyn y cwestiwn i ni ei ateb Pa un y dymunwn feithrin i'n plant?' Cawsom ailadrodd 'Mae chwarae'n troi'n chwerw' fel tiwn gron megis, yn ein hatgoffa drosodd a throsodd o'r peryglon rheibus sy'n bygwth byth a beunydd os nad yw'n dewis yn briodol. Cysur drwy gyffuriau
Gwelwyd hyn drwy dynged dwy ferch, y naill yn gaeth i gyffuriau meddygol a'i gwreiddiau mewn capel, a'r llall ar gyffuriau cysur, yn tynnu sylw at ei hangen am gariad, drwy wrthryfela yn erbyn pawb a phopeth cyfundrefnol yn enwedig capel a chrefydd, gan fwydo ei myraeth a'i chwant drwy ddwyn gan yr aelodau. Daeth Tomos, dosbarthwr y papur newydd, i gyflwyno nifer o ddelweddau angenrheidiol ein bodolaeth, a hynny mewn modd fywiog, direidus a bachog, cyn i ni gyfarfod Sera a'i theulu annwyl a chynhaliol, yn cyferbynnu yn drawiadol tu hwnt a Sali a'i rabscaliwns o rieni a ffrindiau.
Yna cawsom flasu effaith y cyffuriau ac arwyddocâd magwraeth gynhaliol, pan aeth yr hebryngwr a Sera yn ôl mewn amser yn y modd mwyaf gosgeiddig, cyn ein tywys i fwynhau dawnsio hyfryd a gafaelgar gan y ddwy. Yna cawsom hunllef syfrdanol Sali a'r cyferbyniad amlwg. Yr ysbrydion aflan yn ymosod yn chwareus, bygythiol a milain ar ei meddwl hi. Chwarae teg i'r genod. Mynegi yn y modd mwyaf argyhoeddedig mewn gofod cyfyng. Gwych iawn. Perfformio rhagorol.
Dwi'n siwr hefyd, fod pawb wedi eu cyffwrdd a'u plesio gan ddehongliad llawen, direidus a diniwed Sera, ynghyd ag ysbryd y gwter Sali, gyferbyn â hi. Yn gefn iddynt cafwyd cyd chwarae rhagorol gan nifer fawr o aelodau 'Gwreiddiau Gwrych', gyda chameos o berfformiadau da gan Mei, Meg, Jac, Mr Ifans, Hannah, Mrs Prydderch, Yncl Wil a Glyn, heb anghofio holl gymeriadau credadwy y geni, a'r llefarydd yn gynnil a phwyllog ar y diwedd yn ein hatgoffa o'n gobaith a'n cred - er i'n cymdeithas ymwrthod â chrefydd yn fynych. Er iddi ei thaflu i ffwrdd fel bwmerang, dod yn ôl fydd ei hanes.
Côr campus
Diolch i'r côr am ganu mor hyfryd, ac yn eu symudiadau a'u hosgo, gynnal y ddeialog a sefydlu'r sefyllfaoedd mor effeithiol, yn enwedig wrth gloi, pryd y cerddodd Sera am y tro cyntaf, ac y dychwelodd Sali i gôl teulu o'r capel. Uchafbwynt gwefreiddiol iawn. Peidied neb anghofio y genod bach annwyl ddaeth a gwir naws ac ysbryd yr Wyl i'r amlwg. Noson i'w chofio gobeithio, gyda neges syml, gyfoes, fydd o werth a hwb, fel y dywedodd Sera, i gapelwyr ffyddlon sydd yn blino am eu dyfodol.