Yr wyf wastad wedi mwynhau bod tu allan yn yr awyr agored, a dyna roddodd y gic i mi gychwyn gwirfoddoli gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol flwyddyn yn ôl. Gwirfoddolais am dri mis gyda chriw llwybrau ardal y Carneddau cyn rhoi cynnig ar gael prentisiaeth llawn amser gyda'r 'Tryst'. Drwy fy syndod, cefais fy nerbyn i weithio a chael fy hyfforddiant yng Nghraflwyd, Beddgelert.
'Careership' galwyd y cynllun, golygwyd hyn fy mod i yn cael fy hyfforddi am dair blynedd i ddatblygu sgiliau wardeinio. Treuliaf ran helaeth o f'amser o amgylch Beddgelert, ond hefyd mae gofyn i mi fynd i Goleg Reaseheath ger Nantwich am 10 wythnos pob blwyddyn, mewn blociau pythefnos ar y tro.
Wyth ohonom sydd wrthi, pedair merch a phedwar bachgen, pawb wedi dod o ardaloedd gwahanol gan gynnwys Gogledd Iwerddon a Chernyw. Rhaid dweud fod coleg yn dipyn o sbort yn ogystal â chyfle i ddysgu bob math o bethau gan gynnwys adar a blodau gwyllt, i hyfforddiant ar weithio 'chainsaw'. 'Rydw i'n cael pleser mawr yn fy ngwaith yn ôl ym Meddgelert hefyd. Mae'r gwaith yn amrywio o ddydd i ddydd ond treuliaf bob dydd yng nghwmni warden ardal Beddgelert yn gweithio ar stad Craflwyn neu wneud gwaith cynnal a chadw o amgylch y lle. Hyd yma, 'rwyf wedi cael tipyn o brofiadau gan gynnwys torri coed, ffensio, walio a hyd yn oed adeiladu sied!
Wrth edrych yn ôl ar fy mlwyddyn gyntaf, mae tri phrofiad yn neidio i'r meddwl.
Y cyntaf oedd cyfri geifr gwyllt ar yr Wyddfa. Cerddais filltiroedd yn ceisio cael cip olwg ar y creaduriaid gan nodi niferoedd, eu hoed ac ati. Bwriad hyn oedd er mwyn cadw golwg ar y rhifau a chymharu eu niferoedd o flwyddyn i flwyddyn. Mis Tachwedd oedd hyn, a chofiaf dawelwch yr Wyddfa a phrydferthwch y mynydd.
Mae gen i atgofion melys o gael dysgu'r grefft o blygu gwrych yn ôl ym mis Ionawr. Mae rhaid gwneud hyn yn ystod y misoedd cynnar cyn i'r coed gychwyn blaguro, ond 'rwy'n dal i gofio'r oerfel fel tasa'i ddoe! Ta waeth, cefais foddhad o'r plygu a defnyddio teclyn bach o'r enw `billhook', sef math o fwyell gyda thro yn ei chanol. Holltwyd y drain gyda'r 'billhook' nes iddynt blygu yn naturiol ac yna bu plethu'r canghennau a alwyd yn `pleachers' o amgylch y ffyn. Y peth gorau am hyn yw pasio'r gwrych rŵan a gweld eu bod yn llawn dail ac yn gynefin i sawl aderyn. Ffordd hollol naturiol a thraddodiadol o adeiladu ffin.
Cofiaf hefyd yn ôl i ddiwrnod braf dreuliais ar Ddinas Dinlle. Fy nhasg y diwrnod hwnnw oedd ail godi clawdd oedd wedi dymchwel ar ei chanol. Mae posib gweld sawl clawdd o amgylch ardaloedd y môr oherwydd bod siâp y cerrig yn addas i'r adeilad. Adeiladwyd clawdd gyda cherrig crwn naill ochr a llenwyd y canol gyda phridd. Mae'r cerrig yn lleihau fesul rhes a diwedd y gân yw stwffio mwsog rhyngddynt er mwyn i'r gwraidd dyfu a'i gryfhau. Cefais andros o ddiwrnod braf yn gweithio gyda'r cerrig llyfn wrth edrych am Ben Llyn.
Ar y gweill, byddaf wrthi yn torri gwair gyda beic `quad' a 'mowar' ar ei gefn, byddaf hefyd wrthi yn trio cael gwared â Rhododendron sydd fel pla o amgylch Beddgelert! Mae
Rhododendron ponticum yn broblem fawr gan ei fod yn chwalu ei had dros y mynydd ac yn mygu pob planhigyn arall yn ei ffordd, fel canlyniad mae bywyd gwyllt yn lleihau hefyd.
Edrychaf ymlaen hefyd i gael dychwelyd i'r coleg fis Medi er mwyn cael hanesion y wardeiniaid eraill.
Gan Iona Roberts