| Cynhelir cwis ar gyfer ysgolion cynradd Dyffryn Conwy a'r glannau a bydd gwobrau o docynnau llyfrau i'r tair ysgol lwyddiannus. Bydd balwnau arbennig yn cael eu paratoi i'w rhoi i bob plentyn fydd yn ymweld â'r siop ac yn ogystal â hyn bydd gostyngiad o 10% ar lyfrau a brynir yn y siop yn ystod y mis. Os ydych angen mwy o wybodaeth neu sgwrs am y dathliadau hyn cofiwch gysylltu â mi yn y siop - rhif ffôn 01492 641329 rhwng 9.30 a 5.00 Gwawr Dafydd
 |