| Gyda Myrddin yn nosbarth agored reversible gyda'r MX 135 ac arad Kuhn 4 cwys, ac Emrys yn nosbarth y reversible dyll y byd gyda'r 5150 ac arad 3 cwys Kvemeland ac i ffwrdd a nhw ar hyd a lled y wlad. Nos Wener y 9fed o Fedi, cychwynodd y ddau i lawr i Uttoxeter i gystadlu ar y dydd Sadwm, lIe doth Myrddin yn ail o dan 21 a'i dad yn 4ydd yn ei ddosbarth. Yna i lawr i Litchfield ar y dydd Sul, lle cafodd Myrddin y dechreuwr gorau a'i Dad ail yn ei ddosbarth. Gadael y tractors lawr yn Telford yn barod at yr wythnos ganlynol. Cystadlu yn yr Amwythig yn ras droi Cruckton ar y dydd Sadwrn, lle cafodd Myrddin cydradd 4ydd ac enillodd ei Dad ei ddosbarth. Yna yn nôl lawr at Cannock a chystadlu yn ras droi de Staffordshire a Wolverhampton ar y dydd Sul, y tro hyn cafodd Myrddin cyntaf o dan 21 a hefyd tlws am y gwaith gorau mewn 3 dosbarth. a'i dad yn 2il yn ei ddosbarth. Dydd Sadwrn y 24 o Fedi i ffwrdd a'r ddau dros y dwr i Bodorgan, Ynys Môn sef Ras Droi Cymru, daeth lwyddiant i'r ddau, gyda Myrddin yn 2ail a'i Dad yn 3ydd. Ar ddydd Mercher y 28ain aeth Myrddin i'r ysgol a'i Dad aeth unwaith eto ar ei drafals i ymyl Manceinion i gystadlu yn ras droi Sir Gaer a dod ar gwpan yn nôl adre. Dymuna Emrys a Myrddin ddiolch o galon i Arwyn Vaughan Ffordd Fawr Prion am fenthyg ei arad ac i John Parry Dinerth Hall, Llandrillo yn Rhos am fenthyg ei drelar i gario'r cwbwl o gwmpas. Ac ymddiheuriadau lu i bawb a fuodd yn styc y tu ôl iddynt ar y ffyrdd!.
 |