| Tra bydd iaith yn cael ei defnyddio gan genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o siaradwyr daw newidiadau bach i'r golwg. Trosglwyddir y rhan fwyaf o nodweddion yr iaith ymlaen i'r to nesaf o siaradwyr, ond, fel yn achos genynnau planhigion neu anifeiliaid, bob hyn a hyn bydd gair neu ymadrodd neu ynganiad newydd yn dod i'r golwg. Weithiau derbynnir y newid yn gyffredinol, dro arall bydd rhyw rai, mwyafrif hyd yn oed, yn ei wrthwynebu. Weithiau ffasiwn sy'n para dros gyfnod byr yn unig yw oes ymadrodd arbennig, dro arall ceir ymryson go ffyrnig cyn i ryw air newydd neu ystyr wahanol i air, gael ei dderbyn neu ei wrthod yn derfynol. Ar rai adegau bydd y newidiadau yma yn fwy niferus. Digwydd hyn pan fydd sefyllfaoedd arbennig yn codi, er enghraifft cyswllt mor agos rhwng dwy iaith fel y bydd llawer iawn o bobl yr un mor rhugl yn y ddwy, neu nifer fawr o siaradwyr un iaith yn dod i siarad un arall. Gwelir bod ambell iaith sydd wedi newid ond yn araf iawn dros y canrifoedd: iaith Gwlad yr Iâ a iaith Lithwania, er enghraifft. Ar y llaw arall, credaf fod y Gymraeg yn iaith sydd, oherwydd y nodweddion uchod, a'r potensial i newid yn aruthrol mewn byr o dro. Dyna sy'n esbonio anesmwythyd rhai pobl ynglyn â'r datblygiadau. Rwyf newydd ddefnyddio'r gair 'potensial' : ydi hwnnw'n dderbyniol gennych? Ar draws tudalen flaen rhifyn diwethaf Y Gadlas mae'r gair 'ffarwelio', sydd, yn ôl Geiriadur y Brifysgol, yn bod yn y Gymraeg ers yr unfed ganrif ar bymtheg. Siawns, felly, nad ydi o wedi ennill ei blwyf erbyn hyn. Clywais rywun yn cwyno'n ddiweddar am boster yn sôn am fws yn 'dechrau' am hyn a hyn o'r gloch : "cychwyn" sydd eisiau, meddai. Er mai gair Cymraeg ydi 'dechrau', dylanwad y Saesneg 'start' sydd yma dan yr wyneb megis. Gwelais y brawddegau hyn yn ddiweddar mewn ysgrif o waith cyfaill o fro'r Gadlas. "Yr ydym yn cael ein boddi gan ryw jargoniaith ddryslyd yn barhaus pan y'n twyllir â rhyw iaith glyfar pan fo ymadroddion syml a chwbl naturiol i'w cael" ac eto "Nid Cymdeithas yr Iaith sydd arnom ei angen, ond cymdeithas i warchod y Gymraeg naturiol. "Trech arfer gwlad nag Arglwydd" medd y ddihareb, a mawr obeithiaf y bydd iaith naturiol pobl cefn gwlad ble mae'r Gymraeg ar ei gorau yn drech ar yr arferion a'r lol geir yn bresennol, ond y gofid yw bod Cymry gwych naturiol cefn gwlad yn prinhau." Os Clywch, Clywch' yw eich hymateb, epiliwch a magwch ragor o Gymry gwych naturiol'. Ond yn y pen draw, rhaid darganfod rhyw ffordd ganol ac impio'r gorau o'r termau newydd, hynny yw y rhai mwyaf cydnaws a theithi'r iaith, ar foncyff cryf y gorffennol. Peter Smith, Henllan
 |