Penderfynodd Alex Carter, Plas yn Llan, Llannefydd gymryd y cam a mentro i ddechrau busnes newydd ei hun gan newid cyfeiriad yn llwyr! Ei swydd flaenorol oedd 'Credit Analyst' gyda Banc o America yng Nghaer a nawr mae wedi cychwyn gyrfa yn rhoi gwersi gitar mewn ysgol leol ac yn breifat. Bu Alex yn rhoi gwersi gyda'r nos i rai 0 blant yr ardal ers blynyddoedd, yn ogystal a chwarae mewn grŵp mewn digwyddiadau lleol. Pob hwyl gyda'r fenter Alex! Os am fwy o fanylion ynglyn a chael gwersi gitar yn breifat neu mewn ysgol cysylltwch ag Alex ar 07934475210.
 |