Daeth y sgript o law Mei Jones a'r gerddoriaeth o law Gwyneth Vaughan, a'r cast, fel crewyr y sioe, yn drigolion Bro Cernyw. Amaturiaid oedd holl aelodau'r cast, ac yn y gymuned y gwnaed yr holl waith cynllunio, saerni'o a phaentio. Ac i goroni'r cyfan, fe seiliwyd y stori ar hanes un 0 feibion Llangernyw, yr athronydd Syr Henry Jones.
Yr oedd y cynhyrchiad yn gampwaith caboledig, ond yn bwysicach na hynny, bu'n gyfrwng i ddwyn cymuned gyfan i mewn i weithgaredd creadigol, ac yn fodd i arddangos i'r byd a'r betws y cyfoeth o ddoniau oedd i'w gael mewn bro wledig ddiwylliedig.
Nos Wener, Ionawr 19eg, cawsom brawf nad yw cronfa ddawn Bro Cernyw wedi pallu o gwbl. I ddathlu ugain mlynedd llwyfannu' r cynhyrchiad cyntaf, perfformiwyd addasiad o 'Harri'r Cwm' gan blant Ysgol Bro Cernyw yn y Ganolfan Addysg.
Yr oedd y cyfuniad o ganu ac actio a symud gan gast mor ifanc yn gyfareddol. Gydag asbri a hyder fe gyflwynwyd hanes Harri'r Cwm o'r newydd, hanes yr oedd y plant yn amlwg yn ymfalchio ynddo.
Yr oedd y cyfan yn rhagorol, ac mae'n rhaid dweud fod ambell un o'r perfformwyr ifanc yn dangos addewid o bethau gwych i ddod.
Nid heb waith caled iawn mae llwyddo i gael plant mor ifanc i gyflwyno cynhyrchiad mor uchelgeisiol. Mae'r cyfan yn glod mawr i Mrs Gwenda Pringle a staff ymroddedig yr ysgol.
Rhaid dweud fod Mr Rhodri Evans, y Dirprwy Bennaeth, yn actio rhan ysbryd Henry Jones yn 'ysbrydoledig' iawn! Yn y fenter hon mae'r athrawon wedi llwyddo i gyfoethogi profiad y plant ac ar yr un pryd gyflwyno iddynt dalp pwysig 0 hanes eu cynefin.
Fel oedolion, gall y plant hyn edrych yn ôl ar y profiad hwn gyda diolch a balchder.
Ni anghofiwyd y cast gwreiddiol ychwaith! Dan arweiniad Mrs Megan Jones (Mrs Roxburgh y cynhyrchiad gwreiddiol) cyflwynwyd rhai o sêr sioe ugain mlynedd yn ôl.
Cafwyd atgofion difyr a doniol gan Eleri Wynne, Ceris Roberts a Diane Roberts.
Syniad gwych oedd cael Gwyneth Vaughan yn ôl wrth y piano er mwyn i'r gynulleidfa a'r plant ymuno gyda'i gilydd i ganu rhai o ganeuon bachog y sioe.
Cyn mynd adref, cafodd pawb gyfle i gael paned ac edrych ar fideo yn adrodd hanes cyflwyno'r cynhyrchiad cyntaf. Bu'r blynyddoedd yn garedig iawn wrth rai!
Cyflwynwyd y noson er budd Amgueddfa'r Cwm, ac fe groesawyd pawb ar y dechrau gan Lywydd Yr Ymddiriedolaeth, Mr John Hughes. Wrth dalu diolch ar y diwedd, atgoffodd y Cynghorydd Dilwyn Roberts ni oll am ddyled y fro i John Hughes.
Ef oedd fwyaf gyfrifol am gadw'r amgueddfa i fynd, a hynny mewn dyddiau main iawn cyn bod son am gymorthdaliadau na loteri.
Oni bai fod 'Y Cwm' yn dal i sefyll fel tysteb i orchest mab y crydd, efallai na welsem 'Harri'r Cwm' a byddem ninanu a'r genhedlaeth ifanc yn dlotach o'r herwydd.
Gwynn Matthews