Cystadleuaeth sydd yn cael ei drefnu bob blwyddyn gan Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr a Banc y NatWest yw hi, a'r bwriad ydyw cydnabod y cyfraniad mae merched yn ei wneud i fyd amaeth, ac i godi proffil merched mewn amaethyddiaeth.
Roedd y dyfarniad yn cael ei gyhoeddi yn Y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, a pythefnos cyn y Ffair Aeaf, cefais wybod fy mod yn un o'r tair oedd wedi eu enwebu i'r rownd derfynnol.
Ar y dydd Llun canlynol, daeth tri beirniad i sgwrsio hefo fi adre ar y fferm, a chefais fy holi am bob math o bethau, yn cynnwys beth rwyf wedi ei gyflawni yn y blynyddoedd diwethaf, beth rwyf yn ei wneud nawr ar y fferm, a beth yw fy ngobeithion i'r dyfodol.
Erbyn hanner dydd ar fore Llun y Ffair Aeaf, roeddwn yn teimlo'n nerfus iawn wrth fynd i mewn i bencadlys yr Undeb, ac mor falch oeddwn o weld aelodau o'r teulu, a ffrindiau o ardal Llansannan, a oedd wedi dod yno i'm cefnogi.
Wedi i'r dyfarniad gael ei gyhoeddi, cefais dynnu fy llun gan amryw o bapurau, a cefais gyfweliad hefo Radio Cymru, Newyddion S4C, ac ar gyfer rhaglen Amaeth yn y bore hefo Dai Tomos.
Ers ennill y teitl, rwyf wedi cael amryw o brofiadau yn barod, yn cynnwys ymddangos fel gwestai ar y soffa ar rhaglen Wedi 7, a oedd yn brofiad diddorol dros ben, a hefyd cefais gyfweliad gan Merfyn Davies ar raglen y Post Cynnar, i siarad am fy mhrofiadau yn 2007.
Rwyf wedi fy syfrdanu hefo'r ymateb gan fobl - yr holl alwadau ffon, a'r llu o gardiau i'm llongyfarch, a fedrai ddim ond diolch o waelod calon i bawb am yr holl gefnogaeth rwyf wedi ei gael dros y mis diwethaf, a hefyd dros y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at flwyddyn gyffrous iawn yn 2008 fel llys-gennad dros ferched mewn amaethyddiaeth.
Eurgain Jones - Beidiog.