Pen y Graig ar gwr Mynydd Hiraethog, tua 800 troedfedd uwchben y môr (map SH 8661, 9754). Tŷ hir traddodiadol ydoedd, gyda'r stabl a'r popty mawr ar ei ochr chwith, a'r beudy, yr ysgubor a chwt llai ar ei ochr dde. Erbyn heddiw, er bod yr adeilad yn dal ar ei draed , mae uchder toeau yr adeiladau wedi eu gostwng. Y cofnod cyntaf sydd gennyf yn ymwneud â Phen y Graig yw claddu Thomas Hughes, tlotyn, ar Chwefror 5ed 1698. Er mae tlotyn ydoedd roedd yn ddyn o flaen ei amser oherwydd mai dim ond cyfran fechan o'r plwyfolion oedd wedi dechrau defnyddio cyfenw parhaol yr adeg yna. Ymddengys bod Hughes yn gyfenw poblogaidd yn y bwthyn yma.
Rhwng 1721 a 1726 ganwyd Hugh, Elizabeth a Mary Hughes i William Hughes a'i wraig. Erbyn 1790 roedd William Hughes arall yma gyda'i wraig Anne. Rhyfeddol oedd sylwi ar y Gofrestr Genedigaethau, a gweld y saith plentyn a anwyd iddynt yn dod i'r byd yn rheolaidd pob dwy flynedd. Bu farw y chweched plentyn, Anne, yn naw mis oed, a rhoddwyd yr un enw wedyn i'r eneth fach nesaf i'w geni iddynt, yn ôl arferiad yr oes. Dim ond Anne Hughes oedd ar ôl i dalu'r dreth erbyn 1838 ar "Land and buildings annual value £2-10s-0d".
Erbyn 1841 mae'r cyfrifon yn dangos mai'r mab William, a oedd wedi priodi Catherin o Sir Gaemarfon, oedd yma'n ffarmio. Ymhen amser ymddeolodd y ddau yma i Dan yr Allt (rhwng Pentre a maes parcio'r Lion Inn), a ffermwyd Pen y Graig wedyn gan eu mab hwythau, sef y trydydd William Hughes yn olynol, a'i wraig Ann. Ganwyd iddynt bedwar o blant ac aethant oddi yma i Nant yr Henfaes.
Erbyn 1870 'roedd Robert ac Anne Jones wedi symud yma o Glanrafon (y canol o dri o fythynnod a arferai sefyll ym maes parcio'r Lion Inn). Mae cyfrifon 1891 yn dangos bod Evan Davies a'i nai, Price Davies (Ap Cledwen), yn byw yma. Bu farw Evan yma yn 1899 a symudodd Price Davies i lawr i Pentref i fyw, lle bu yntau farw yn 1903.
Ym mis Ebrill 1895 digwyddodd trychineb ar dir Pen y Graig. 'Roedd criw yn cerdded adref o Lanrwst, yn eu plith gŵr ifanc 25 oed o'r enw John Griffith, Cornel Fatw, a oedd yn analluog. Wedi anghytundeb gyda'r rhai a oedd yn cyd-gerdded ag ef, aethant hwy un ffordd ac yntau ffordd arall, sef i lawr heibio Pen y Graig. Yn anffodus, cwympodd i lawr i'r nant ddofn sydd rhwng caeau Pen y Graig a Tyddyn Deicws, a bu farw o'i anafiadau.
Daeth Robert ag Anne Edwards yma wedyn o Ben y Bont. Roedd Robert Edwards yn Fugail Mynydd, felly roedd Pen y Graig yn le hwylus iddynt fyw. Bu farw ei wraig yn 1930 ac yntau yn 1918. Y bobl olaf i fyw yma oedd tair merch, Elizabeth (Lisa), Hannah a Gwladys Ann Hughes. Roedd Lisa a Hannah yn ferched i'r trydydd William Hughes ag Ann a aeth oddi yma i Nant yr Henfaes, a Gwladys Ann yn ferch i Lisa. Felly, yma y ganed, ac y bu farw Lisa yn 86 oed yn 1940. Yn Nhy'n yr Ardd y bu farw Hannah Hughes yn 98 oed yn 1961 a Gwladys Ann yn 62 oed yn 1956.
John Wynne, Bron Llan, fu'n ffarmio Pen y Graig ar eu holau. Heddiw mae Pen y Graig yn cael ei ffermio gan deulu Graig Bach.
Gan : Heulwen Roberts