Cefais fy magu yn Foel Uchaf, Cyffylliog. Cofio fy nhad yn cario dŵr slotiau hefo baril o lyn o un o'r caeau a chario dŵr glân o ffynnon yn yr un cae, cario hefo bwced.
Pan ddaeth yn amswer i mi fynd i'r ysgol i Gyffylliog cerdded milltir ar hyd gwaelod Graig Goch a'r afon Clywedog yn llifo yn ymyl y llwybr a honno yn frith o bysgo. Ymhen rhyw flwyddyn roeddwn wedi dod i ddeall pysgota dwylo o dan gerrig yr afon. Cefais aml i bysgodyn o dro i dro ond prin y gwelwch bysgodyn yn yr afon heddiw.
Y gorchwyl nesa i mi oedd mynd â'r gwartheg godro i Cae Nant Bach ar fy ffordd i'r ysgol a dod â nhw adref efo mi ar fy ffordd o'r ysgol.
Mae gennyf gof am dorri gwair efo pladur ond cyn bo hir daeth yr injan wair geffylau a'r bladur yn dal yn ddefnyddiol i docio o gwmpas y cloddiau. Roedd hen ddywediad "cwyd di'r tusw gwair neu'r tusw gwlan ac mi godith hwnno dithau".
Defnyddiwyd y bladur i dorri o gylch y caeau ŷd. Wedi cael llawr bach tu ôl i lawr yr injan wair a lefar bach wrth droed y gyrrwr i godi'r llawr nes cael digon o ŷd i wneud ysgub a rhyw fath o gribin wrth ollwng y llawr i lawr yr ysgub daclus.
Byddai pawb - y dynion, y wraig a'r forwyn - yn rhan bwysig o'r cynhaeaf a phawb â'i waith yn gofalu fod yr ysgubau wedi eu rhwymo ac allan o'r ffordd cyn i'r injan ddod y tro nesaf.
Symud o'r Foel yn 1934 i Hafod Dinbych, Pentrefoelas. Fferm defaid mynydd a byddai nodi clustiau yr ŵyn benyw yn waith pwysig cyn eu troi i'r mynydd hefo'u mamau iddynt adnabod eu cynefin. Byddai'r ŵyn gwryw yn cael eu cadw i lawr ar y tir porfa iddynt gael tyfu tipyn am rhyw fis neu chwech wythnos cyn eu troi i'r mynydd a wedyn tyfu cae o rep i'w pesgi. Troi efo arad fach a chwys fer daclus. Y tir yn garegog iawn a phan fyddech yn taro carreg roedd rhaid cydio'n dyn yng nghyru yr arad neu cael celpen go arw! Wedi hynny daeth yr arad un ffordd a rhyw 'hinges' yn troi o dani wrth i'r ceffylau droi yn ôl yn y dalar. Roedd hon tipyn esmwythach pan fyddech yn taro carreg. Torri ŷd efo beindar yn cael ei dynnu gan wedd o geffylau yr adeg yma.
Wedyn daeth y tractor Fordian ar 'cleats' gyntaf ac yna'r 'Spare Lugs' yn llusgo arad dwy gwys a rhyw 'safety hitch' i ddatod pan yn taro carreg fawr. Yna daeth y tractor hefo olwynion rwber ac erbyn hyn gallai fynd ar hyd y ffordd fawr ac i'r farchnad.
Yn y cyfnod hwn roedd ffermwyr yn ddibynnol iawn ar ei gilydd. Er mwyn gwneud gwahanol oruchwylion ar y fferm roedd pawb yn ffeirio, hynny yw, roedd y cymdogion yn dod at ei gilydd i hel a golchi defaid, i gneifio ac i ddyrnu. Roedd diwrnod dyrnu yn ddiwrnod mawr ar bob fferm. Rwy'n cofio y tracsiwn stem yn llusgo'r injan ddyrnu, gwaith yr hogyn fyddai cario dŵr i'r tracsiwn neu dorri rhaffau yr ysgubau i fwydo'r injan ddyrnu.
Cyn dyddiau'r gwerthu llaeth byddai pob ffermwr yn mynd i'r farchnad bob wythnos efo dwy neu dair basgediad o wyau a menyn cartref i'w werthu a sefyll yn y farchnad a bargeinio am y pris.
Tua diwedd y tridegau daeth y Gwerthu Llaeth. Cofio yn dda cael mynd gyda nhad i'r 'Parish Room' yng Ngherrig y Drudion (mae'r ystafell dal yno heddiw) i gael telerau gwerthu llaeth a gweld sut ganseni oedd orau. Roedd y rhai 10 galwyn yn fwy pwrpasol ond roedd rhai pum galwyn i'w cael hefyd yr adeg hynny.
Yn fy nhyb i dyma'r adeg y bu i amaethyddiaeth ddechrau ffynu. Yn sgil hynny fe newidiodd Cefn Gwlad. Ie aeth y combein i wneud i ffwrdd â diwrnod dyrnu, y peiriant cneifio i wneud i ffwrdd â'r diwrnod cneifio a phobl yn pryderu beth a fyddai hanes y bobl ifainc.