BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gadlas
Enlli VaughanGwenwch!
Mehefin 2010
Mae ffotograffiaeth yn gyfrwng i ddiogelu a choleddu atgofion ym 'mhoced cesail y cof', ac fe fydd un grefft wraig lleol, Enlli Vaughan, yn sicr o gofio'r cyfle a gafodd i arddangos ei gwaith ffotograffiaeth yn Amgueddfa'r Cwm y mis yma.

Yn sicr fe fyddai Syr Henry Jones, y crefftwr o grydd, athro a dinesydd yn gwenu ac yn cydsynio mai priodol iawn yw cynnig y fath gyfle ac yntau ei hun wedi manteisio ar addysg bellach a chynllun 'day release' i ysgol John Preis - nid o'r ysgol fel y dyddiau hyn.

Agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol gan y Cynghorydd Dilwyn Roberts ar Mai 28ain.

Dyma gyflwyniad Enlli: Yn enedigol o Langernyw, mynychais Ysgol Bro Cernyw ac Ysgol Dyffryn Conwy.

Yno, tra'n gwneud fy lefel A, cefais y cyfle i wneud cwrs o'r un safon mewn ffotograffiaeth yng Ngholeg Llandrillo.

Cefais y cyfle yno i ddatblygu a phrintio lluniau yn y dull traddodiadol yn yr ystafell dywyll.

Datblygais fy sgiliau a chael 'A' fel gradd derfynol. Y flwyddyn wedyn mynychais gwrs addysg bellach mewn ffotograffiaeth sef HND.

Deilliodd fy niddordeb yn ifanc iawn ar ôl derbyn camera bach 'instamatic' yn anrheg Nadolig gan ffrind teulu ac 'roeddwn wrth fy modd yn tynnu lluniau coed a defaid!

Pan oeddwn yn hyn, 'roeddwn yn cael defnyddio camerau SLR fy rhieni cyn cael camera digidol fy hun.

Yn yr arddangosfa yma, fel rhan o'm cwrs, rwyf yn dangos rhai o'r lluniau yr wyf wedi eu cynhyrchu tra'n gwneud y cwrs HND.

Mae trawsdoriad o'r hyn sydd yn cael ei arddangos rhwng y ffotograffiaeth draddodiadol (du a'r gwyn) a'r ffotograffiaeth fodern (digidol).

Fy ysbrydoliaeth ar gyfer y gwaith digidol oedd lluniau ffasiwn mewn cylchgronau merched.

Fy mwriad oedd defnyddio merched arferol, naturiol yn hytrach na 'sgerbydion i ddangos bod yr un math o ddillad ffasiynol yn edrych yn dda ar ran fwyaf o boblogaeth y wlad, nid yn unig ar y modelau maint sero.

Cefais gyfle hefyd i dynnu lluniau o waith crefft Buddug yn dylunio dillad.

Penderfynais ar brosiect arall yn ymwneud ag erydiad tir ar y glannau, yn benodol Ynys Enlli gan fy mod wedi treulio sawl gwyliau haf yno tra'n blentyn.

Fy mwriad oedd creu lluniau prydferth o'r erydiad a dogfennu'r presennol.'

Carai Enlli ddiolch i'r Cynghorydd Dilwyn Roberts; Ymddiriedolwyr Amgueddfa'r Cwm; Wil Evans, Coetmor, y modelau - Buddug Williams, Tŷ Mawr; Elin Chilton; Lois Williams, Dolwen a phawb arall sydd wedi cynorthwyo gan gynnwys paratoi'r bwyd.

Gyda chynifer o grefftwyr ifanc lleol gobeithio y bydd modd cynnig cyfleoedd eraill yn y Dyfodol. Y Gadlas


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy