| Sais o Blackburn yw'r Maer newydd, ond Sais sydd
yn dysgu Cymraeg ac a fentrodd i draddodi rhan fawr o'i
araith yn iaith y nefoedd. Ei faeres yw Ms. Eirlys Broadhead.
Cymro Cymraeg yw'r Dirprwy Faer newydd, sef y Cyng.
Medwyn Williams, mab Mr. J.D. Williams. Mae gan Medwyn
ganran presenoldeb yng nghyfarfodydd y cyngor o 100% - 5%
yn fwy na Raymond Bartley a gollodd un cyfarfod yn unig. Mrs. Alison Williams yw'r Dirpwy Faeres newydd.
Etholwyd
y Cyng. Raymond Bartley i gadair y Pwyllgor Cynllunio sy'n
golygu mai fo bydd Maer Dinbych yn y flwyddyn 2012. Diolchwyd i'r cyn-Faer, y Cyng. Ian Davies am ei holl waith
ac i Mrs. Elaine Jones, ei faeres ac hefyd i Glerc y Dref, Mr.
Medwyn Jones ynghyd â Mrs. Mary Jones. Yn dilyn y Cyng Parch Margaret Baker fel Caplan y Maer bydd y Parch
Graham Floyd ac yng nghapel Lôn Swan y cynhelir Sul y
Maer eleni.
 |