BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Plant ysgol Morfa Nefyn wedi gwisgo i fyny i ddathlu canmlwyddiant eu hysgol.100 mlynedd yn ôl...
Tachwedd 2008
Dathlodd tair o Ysgolion Llyn eu canmlwyddiant yn ddiweddar.

Agorwyd Ysgol Llanbedrog ar Fedi'r 21ain, Ysgol Morfa Nefyn ar Dachwedd 2il, ac Ysgol Pentreuchaf ar Dachwedd 9fed 1908.

I ffwrdd a mi i Archifdy'r sir yng Nghaernarfon a chanfod hen Lyfr Log Ysgol Llanbedrog 1908 ble'r ysgrifennwyd: Sept 11-l8th This is the last week to be spent in the old buildings. The new school will be formally opened on Monday Sept 21st. On Friday the school was closed in order to remove things from the old school to the new.

Dyma ddechrau pori trwy bapurau'r Herald Gymraeg 1908, a chael hanes Ysgol Pentreuchaf yn agor lle cafwyd 'gwledd o de a bara brith i'r plant'.

Ychydig iawn a welwn i am yr ysgolion, ond roedd yna amryw o dameidiau diddorol eithriadol- a pherthnasol i'n dyddiau ni.

Hysbyseb am gynnig i fenthyg arian i 'bob dosbarth (gwryw neu fenyw) ar addewid syml ar bapur i ad-dalu. Benthyg arian a'i dalu'n ôl!

O dan y pennawd Y Merched Eto hanes merched yn aflonyddu yn y Tŷ Cyffredin, gan wthio hysbyslen - Hawliau Cynghrair Rhyddid Merched Pleidleisiau i Ferched y Tymor Hwn.'

Ym Mhwllheli: 'Mae gwaith o estyn y Rheilffordd wedi cynyddu'n fawr yn ddiweddar...' a Hugh Hughes druan a ddirwywyd 5 swllt am 'gysgu mewn tŷ gwair, perthynol i Westy y West End'.

A ninnau yng nghanol dathlu bod y dyn du cyntaf yn Arlywydd Unol Daleithiau'r America, tarodd un stori fy llygaid - y teitl Du a'r Gwyn - Negroaid yn Ymosod ar Ferched.

Yn ystod y tymor hwn yn Springfield, Illinois, bu terfysg fileinig pryd y llosgwyd cartrefi cymunedau cyfan o bobl ddu.

Roedd y stori yn yr Herald Gymraeg wedi'i ei chodi o'r papur Tra roedd tair ysgol newydd yn cael eu hagor yma yn Llyn, roedd yn gychwyn hanesyddol ar fudiad hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau.

Mae dathliadau'r tair ysgol yn mynd ymlaen.

Yn Llanbedrog eisoes cynhaliwyd arddangosfa o hen luniau a 'Diwrnod 1908' gyda John Dilwyn Williams a Gwenda Williams o'r Archifdy, pryd y bu i'r plant a'r staff wisgo i fyny mewn dillad o'r cyfnod.

Mae Cyngerdd Mawreddog i'w gynnal yn y Neuadd Bentref, nos Iau, Tachwedd 20fed.

Mae gan Morfa Nefyn wythnos lawn o weithgareddau gan gynnwys: John Dilwyn Williams yn dod i roi sgwrs, trip i'r Amgueddfa yn Llanystumdwy, Gwerfyl Gregory yn tywys y plant o gwmpas y pentre, Gwyneth Glyn yn cyfansoddi barddoniaeth, a diweddu'r wythnos gyda chlamp o barti ar ddydd Gwener 14eg, gyda phawb wedi'u gwisgo yn nillad oes Fictoria diwrnod Plant Mewn Angen.

Ym Mhentreuchaf bu noson o hel atgofion gyda hen fyfyrwyr ar nos Iau, Tachwedd 6ed, pasiant yn Neuadd Dwyfor nos Wener, arddangosfa o hen luniau dros fwrw'r Sul yn yr ysgol a gwasanaeth yng Nghapel Llwyndyrys ddydd Sul.

Cyhoeddwyd 11 hefyd, Cofio Canrif, i ddathlu'r digwydd. M.J


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy