BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Nerys a RobNerys yn teithio'r byd
Ionawr 2008

Cefais fy magu ar fferm Morfa Mawr yn Aberdaron yn un o bump o blant i Glyn a Gwenda Parry, ac er fy mod wedi teithio ar hyd a lled y byd 'Nerys Morfa' ydw i o hyd i lawer.

Mynychais ysgolion Deunant yn Aberdaron ac yna Botwnnog o 1977-1984: yma fe wnes ffrindiau da, a hyd heddiw yr ydym yn dal mewn cysylltiad agos.

Wedi gadael yr ysgol mi es i lawr i Gaerdydd a mynd i Goleg Addysg Uwch De Morgannwg am ddwy flynedd i astudio Diploma Uwch mewn Busnes a Thwristiaeth. Wedi'r coleg dyma ddechrau ar deithio'r byd: yn gyntaf, teithio i Los Angeles yn yr Unol Daleithiau am chwe mis. Yno, gweithiais mewn bwyty sushi a phrofais ddaeargryn yn mesur 6.1; hefyd mi wnes ymweld a San Fransisco a Mecsico.

Mi ddois yn ôl i Gaerdydd wedyn am gyfnod a gweithio mewn gwesty ac fel ymgynghorydd ariannol: roedd hon yn swydd yr oeddwn yn ei chasáu, felly dyma benderfynu gwireddu fy mreuddwyd a mynd i weithio ar yr awyrennau.

Cefais fy swydd gyntaf fel air hostess yn 1988 gyda chwmni Air Europe, ac yn dilyn chwech wythnos o hyfforddiant i ffwrdd a fi i grwydro'r byd. Wedi i gwmni Air Europe fynd i'r wal yn 1991, cefais gyfle i fynd i weithio yn y Caribi hefo Antigua & Barbuda International Airways.

Yma, tra yn gweithio yn Antigua, y cyfarfyddais fy ngŵr, Rob, ar y traeth. Roedd Rob yno gyda'i swydd fel Lieutenant Commander ar y llong HMS Arrow o'r Llynges Brydeinig, ond yn dod yn wreiddiol o Gernyw. Aeth cwmni yr oeddwn yn gweithio iddo yn y Caribi i'r wal ac mi ddois yn ôl i Brydain a derbyn swydd ymhen wythnos hefo cwmni Inter European Airways yn hedfan o Fanceinion.

Bum yn ffodus iawn o gael fy nyrchafu'n sydyn iawn yn y cwmni yma, ac yn fuan yr oeddwn yn oruchwylwraig gyda gofal am staff a theithwyr yr awyren.

Yn 1993 cafodd y cwmni yma ei brynu gan Airtours a bum yn gweithio iddynt hyd y flwyddyn 2000, yn hedfan teithiau hir o gwmpas y byd gan gynnwys Orlando yn Florida, Y Caribi, a Sydney, Awstralia. Yn ystod y cyfnod yma priododd Rob a finnau yn 1994 yn Eglwys Aberdaron a phrynu tŷ ym Manceinion.

Yn 2000 cefais swydd gyda British Airways ac roeddwn yn gweithio ar y daith hedfan gyntaf i Efrog Newydd yn dilyn yr ymosodiad terfysgol ar y Twin Towers ar Fedi 11.

Wedi colli fy ngwaith hefo BA cefais swydd hefo cwmni awyrennau siarter breifat o'r enw European Aviation yn hedfan ar y Boeing 747, sef jymbo jets. Yr oeddwn yn oruchwylwraig gyda'r cwmni yma hefyd yn gofalu am 16 o griw awyren a 464 o deithwyr.

Roedd y cwmni yma yn wahanol i gwmnïau eraill yr oeddwn wedi gweithio iddynt gan y byddem yn cael cytundebau hir o wahanol wledydd. Un tro buom yn hedfan o Jeddah yn Saudi Arabia am chwe wythnos a bu'n rhaid i mi wisgo sgarff a ffrog laes ddu i guddio'r corff.

Bu Rob a finnau'n byw am ddeng mlynedd ym Manceinion, gyda'r ddau ohonom oddi cartref lawer iawn, Rob ar y mor a minnau'n hedfan.

Buom hefyd yn byw yn Portsmouth am ddwy flynedd ac wedyn yn Llundain am ddwy flynedd a hanner. Yn 2002, fe wnaethom brynu Bodwyddog Bach, Rhiw, a threulio tair blynedd yn ei adnewyddu ar benwythnosau ac yn ystod ein gwyliau.

Ym mis Mawrth y llynedd fe rois y gorau i hedfan a dod i fyw yn llawn amser i Fodwyddog Bach, gyda Rob yn dal i weithio'n Llundain a theithio i fyny bob nos Iau. Yn ystod yr haf cefais fwynhau gweithio yng Ngwesty Tŷ Newydd, Aberdaron, a threulio amser hefo teulu a ffrindiau ym Mhen Llyn cyn i mi unwaith eto godi pac.

Erbyn i chi ddarllen hwn yn y Llanw, bydd Rob a finnau yn Sydney, Awstralia, yn byw am gyfnod o dair blynedd, gan i Rob dderbyn cyfle i weithio yno gyda Llynges Awstralia.

Felly dyma lle'r ydwyf i heddiw - yn mwynhau'r haul poeth yr ochr arall i'r byd, ond y gobaith ydyw dod yn ôl i Ben Llyn ac i Fodwyddog Bach - rhyw ddiwrnod...
Nerys Lynne Kimberley (Parry gynt).


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy