| Hectic a dweud y lleiaf fu paratoadau eleni ond
rhywsut, ar ôl ymarferion caled a phwytho gwyllt funud olaf a thipyn o "stress" cafwyd perfformiadau bythgofiadwy.
Manon Roberts ac Anna Higson oedd yn cyflwyno'r noson a dechreuwyd gyda naws fywiog a lliwgar y Syrcas gan flwyddyn 8. Roedd yno anifeiliaid,
dawnswyr, rhai'n gwneud gymnasteg; tricwyr ac wrth gwrs y clowniaid - i gyd yn lliwgar a bywiog a'i symudiadau doniol wedi ei coreograffeiddio yn wych gan Mrs Melissa Minice. Dechrau ardderchog.
Set yn edrych ar storiâu tylwyth teg a chymeriadau o ffilmiau plant oedd gan y disgyblion cynradd ac roeddynt yn gwisgo gwaith i ei wneud gan ddisgyblion blwyddyn 10. Braf oedd gweld Cain, Ffion, Non, Megan ac Ela yn modelu eto eleni - maent yn hen law arni bellach. Gwych o beth oedd gweld band roc newydd sbon yn cael ei ffurfio at y Sioe a Jed, Jack, Jasmine a Llur yn creu sŵn diddorol hefo'u band Peppermint. Edrych ar wyliau lleol Pen Llŷn wnaeth blwyddyn 9 am ysbrydoliaeth eleni - gwyliau fel Gŵyl Jazz Abersoch, Ras Aredig Llŷn a Wakestock yn ogystal â dylunio gwisg i dìm chwaraeon Cymru. Eto eleni cyflwynwyd tlysau bychain gan Mr Cemlyn Howell ( o waith Mr Deio Parry Jones ) i ddylunydd addawol y blynyddoedd iau a hyn a'r enillwyr oedd Kiowa Kasey a Mirain Griffiths. Llongyfarchiadau i'r ddwy.
Uchafbwynt y noson mae'n siŵr oedd cyfuniad o waith disgyblion Tecstiliau blynyddoedd 10 ac 11. Roeddynt wedi hod yn edrych ar gyfnodau ffasiwn o'r 20au a dylanwad Elsa Shiaparelli , Christian Dior a'r New Look yn y 50au, cyffro'r 60au a'r
mini a dylanwad yr hipis yn y 70au. Roedd
eu ffrogiau ffurfiol yn edrych yn arbennig o
fanwl a'r goleuadu'n chwarae ar liwiau'r ffabrigau sidanaidd. Y diweddglo arbennig oedd y "Time Warp" a dychymyg Mrs Minice yn creu diweddglo cyffrous a syfrdanol. Diolch o galon i'r holl ddisgyblion a fu'n gweithio mor galed ar eu gwaith Tecstilau am fisoedd, i'r holl staff fu'n cyfrannu at lwyddiant y noson, yn arbennig Mrs Minice a Mrs Muse, i Mrs Rose Williams am y blodau hyfryd, y Gymdeithas Rieni ac Athrawon ac i'r gymuned ehangach am gefnogi'r noson.
 |