A'r mwyafrif yn edrych ymlaen at Brifwyl Eryri a'r Cyffiniau yn y Faenol, deilcryn nifer ohonom i gredu mai gwell fyddai bod wedi ei chynnal ym Mharc Glynllifon. Glynllifon fyddai orau gen innau hefyd, ac nid yn unig oherwydd y ffaith y medrwn gyrraedd y Maes o'r tŷ yma o fewn cwta hanner awr. A minnau'n Archdderwydd, fe fûm yn hynod anlwcus fy lleoliadau y teirgwaith y bûm yn gweinyddu'r swydd, gan fod Tyddewi a Chasnewydd cyn belled ag y medrwch chi fod o Nefyn 'ma a dal yng Nghymru. Tra bo Meifod cyn belled ag y gall dyn fynd a dal yn y gogledd. Fe fyddai'r Faenol wedi fy siwtio i'n iawn - a Glynllifon wedi fy siwtio'n well fyth.
Ond nid dyna sydd gen i chwaith. Mân-gecru ydi dadlau fel yna, a dweud y gwir: Cymru yw Cymru, a'r gogledd yw'r gogledd - felly peidiwn â bod yn blwyfol. Eisiau sôn yr ydw i am y bwriad ynfyd (wel, ynfyd i'm tŷb i) sydd wedi codi'i ben i fynd â Phrifwyl 2007 i Lerpwl - neu "Llynlleifiad" os gwell gennych yr hen ffurf Fictorianaidd, anghofiedig ar enw'r lle.
Fe fu'r Brifwyl yn Lloegr, droeon. Caer ym 1866; Llundain ym 1887 a 1909; Penbedw ym 1879 a 1917; a Lerpwl ym 1884, 1900 a 1929.
Digwyddodd hanesion rhyfedd a grotèsg yn ambell un o'r rheini - er mai nodwedd drwgenwocaf a thristaf yr holl eisteddfodau tu-hwnt-i'r-ffin hyn, wrth gwrs, ydoedd Cadair Ddu Hedd Wyn ym 1917, a ddaeth yn rhan o hanes a chwedloniaeth ein cenedl.
Er enghraifft, yng Nghaer ym 1866 mynegwyd pryder bod yr Ŵyl yn or-Seisnig. Yr oedd Sgrôl y Cyhoeddi, hyd yn oed, wedi'i ddarllen yn Saesneg, ac atgoffodd y Llywydd, Syr Watkin Williams Wynn bawb (yn Saesneg) fod yr ymgiprys rhwng y Cymry a'r Saesondrosodd "am byth". Ac yn ei lythyr ymddiheuro, dywedodd Cadeirydd y Cyngor, Y Parch John Griffiths, serch ei fod yn glynu'n arw at yr hen iaith "ni fedraf gydymdeimlo â'r rhai hynny a fyddai yn cau allan o bob elw a mwynhad y rhai nad ydynt yn ei deall" - hynny yw: "Owyr Inglish ffrends". A phan gynhaliwyd hi yn Lerpwl ym 1884 a chadeirio Dyfed am awdl goffa i Gwilym Hiraethog, Cân y Cadeirio oedd Far Greater in His Lowly State, gan Gounod.
Ym 1877 yr oedd wedi ei chynnal yn Llundain, a Gorsedd Gyhoeddi wedi'i chynnal y flwyddyn cynt. Cyn y seremoni, cynhaliwyd gwledd fawreddog yn y Freemason's Tavern, dan lywyddiaeth yr Archdderwydd Clwydfardd. Cafwyd wyth llwncdestun, sef: 1. Y Frenhines Victoria; 2. Cymru Fu; 3. Cymru Fydd; 4. Gorsedd y Beirdd; 5. Eisteddfod Llundain; 6. Pulpudau Cymru; 7. Y Wasg; ac 8. Y Llywydd a'r Boneddigesau. Ni chofnodir pa siâp oedd ar y Gorseddogion ar ôl cynifer o lwncdestunau!
Testun Awdl yr Eisteddfod honno oedd "Y Frenhines Victoria" - am wobr o £40, bathodyn aur, a chadair dderw. Yr oedd y Rhaglen yn uniaith Saesneg, serch y cynhaliwyd defodau'r Orsedd yn Gymraeg.
Pan aeth i Lundain drachefn, ym 1909, cymerwyd y Rheol Gymraeg yn llythrennol lle'r oedd y Rhaglen dan sylw. Troswyd "in the Inner Temple Hall off Fleet Street in the City of London" yn ''yn Neuadd y Deml Fewnol allan o Heol y Chwernant yn Ninas Caerludd" ond roedd y gweithgareddau, yn Neuadd Albert am yr eilwaith, yn ddigon Seisnigaidd. Llywyddion y Dydd, ar wahân i Lloyd George, oedd A. J. Balfour a'r Prif Weinidog, H. H. Asquith.
Pan fu hi ddiwethaf yn Lerpwl ym 1929, yr Archdderwydd oedd Pedrog (John Owen Williams), a anwyd yn y Gatws, Castell Madryn, ond a oedd ar y pryd yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Lerpwl. Trwy gyd-ddigwyddiad, Pedrog oedd wedi cipio'r Gadair pan fu'r Brifwyl yn Lerpwl y tro cyn hynny, ym 1900 am ei awdl "Y Bugail".
Agorwyd y Steddfod honno mewn gorsedd a gynhaliwyd yng Ngerddi Whitley. Ar flaen yr orymdaith roedd Seindorf y Llong Ryfel Indefatigable. Wedi i Hwfa Môn ddarllen y sgrôl cafwyd anerchiad, yn Saesneg, gan Lydawr, Lionel Radiguet. Anerchwyd hefyd gan Arglwydd Mostyn. Dau a urddwyd i'r Orsedd, sef Maer a Maeres Lerpwl, Louis H. Cohen a'i briod, May (fel Cohenydd a Mai Cohen).
Ym 1929 urddwyd Maer a Maeres Lerpwl i'r Orsedd hefyd. Fel mater o ddiddordeb, yma y cipiodd Caradog Prichard ei drydedd Coron (yn olynol), a Dewi Emrys ei Gadair gyntaf.
A dyma'r rhod wedi troi, a ninnau bellach yn clywed sôn am fynd a'r Brifwyl yn ôl i Lerpwl yn 2007. Fy hunan, yr wyf yn gadarn yn erbyn hynny, am ddau reswm, sef: 1. Na ddylid byth ei chynnal eto oddi allan i Gymru, a 2. Y rheswm arall, a fynegaf mewn dau air: COFIWCH DRYWERYN!
Dywedaf yn groyw a diamwys: os mai yn Lerpwl y cynhelir hi, yna (serch na chollais Brifwyl ers blynyddoedd lawer) ni fyddaf yn hon. Gwell gennyf fyddai gweld peidio â'i chynnal, na'i chynnal yn Lerpwl. Gwn am lawer o rai eraill sydd o'r un teithi meddwl a mi yn y mater.
Yn ddiweddar sgrifennwyd llythyr at nifer o swyddogion Cyngor yr Eisteddfod gan Roderick Owen, CadeiryddCymdeithas Cymry Lerpwl, a oedd hefyd yn datgan barn unfrydol Cymdeithas Gymraeg Penbedw. Mae'n sôn am y pryder a deimlir ganddynt os â'r bwriad rhagddo. Mae diogelwch a thrafnidiaeth yn broblemau hunllefus erbyn hyn, a thagfeydd traffig diddiwedd, heb sôn am y ddau dwnnel. Mae cymdeithasau'r Cymry wedi edwino, ac yn heneiddio, fel nad oes digon ohonynt i fedru cynnal eisteddfod leol ers rhai blynyddoedd, heb sôn am y Genedlaethol. Ymddengys nad oedd neb wedi gweld yn dda i roi gwybod iddynt y bwriedid ceisio bwrw'r syniad yn ei flaen.
Cefais innau brofiad chwithig a doniol yn y cyswllt yma. Bu Radio Merseyside ar y ffôn yn gofyn imi restru'r rhesymau yn erbyn cynnal y Brifwyl yn eu dinas. Yn pledio'r achos yr oedd un o swyddogion Dinas Lerpwl, Sais uniaith, heb unrhyw wybodaeth am Gymru, y Gymraeg na'r Eisteddfod.
Gofynnodd yn ddiniwed: "It doesn't all have to be held in Welsh, does it?". Ychydig yn ddiweddarach yn y sgwrs, soniais am Dryweryn a boddi Capel Celyn: nid oedd erioed wedi clywed am y fath ddigwyddiad. Yn wir, aeth ei anwybodaeth ymhellach, ac meddai: "You must have your facts wrong. The City of Liverpool would never allow itself to be associated with that sort of oppressive behaviour".
Ar ôl adwaith mor ddadlennol a hynna, pa ryfedd 'mod i'n meddwl am y gŵr hwnnw - ac eraill tebyg iddo - fel "Y Llob Scouse"?
Robyn Léwis (Robyn Llŷn)