| Dyma'r cefndir gan Anna Jones, un o drefnwyr yr arddangosfa: Pam cynnal arddangosfa? Pam edrych yn ôl o hyd? Yr hyn ysgogodd y syniad oedd siom. Siom fod cyn lleied o bobl a phlant yn defnyddio enwau gwreiddiol ar lefydd yn yr ardal. Roedd y Borth Fawr wedi troi yn Main beach; Traeth Min y Don yn draeth Land and Sea; 'Lawr a fyny'r Rabar' yn Stryd Fawr, neu waeth, yn High Street! Efallai mod i'n disgwyl gormod. Bûm i ffwrdd am flynyddoedd a phan ddychwelais oeddwn i'n disgwyl i bethau fod yr un fath tybed? Rhyw ymgais i wneud yn iawn am hynny efallai a wnaeth imi alw un o bob pentref at ei gilydd y gaeaf diwethaf, gyda'r bwriad o sefydlu amgueddfa. Uchelgeisiol, meddech chi! Penderfynwyd dechrau trwy gynnal arddangosfa o hen luniau o olygfeydd ac adeiladau y pentrefi yn y plwyf ar y thema 'Ddoe a Heddiw'. Ofer oedd y cais am grant ond daeth pwyllgor Neuadd y Rabar i'r adwy a rhoi arian i ni i brynu byrddau arddangos a chaniatáu i ni ddefnyddio ystafell yno. Ond sut i gael y lluniau i gychwyn? Hesb iawn fu'r ymateb i gael lluniau wrth hysbysebu, ac felly bu'n rhaid gofyn i'r bobl graff rheiny sydd wedi bod yn casglu ers blynyddoedd. Cawsom ganiatâd i'w sganio a'u chwyddo fel eu bod yn edrych yn gliriach ac yn fwy. Unwaith yr agorodd yr arddangosfa deuai rhywun a lluniau newydd prin bob dydd nes bod gennym gasgliad parchus a gwerthfawr iawn. A phwy ddaeth i weld y lluniau? Wel, trawsdoriad llwyr. Ymwelwyr diwrnod yn picio i mewn, edrych yn gyflym a sleifio allan yn llechwraidd heb arwyddo'r llyfr ymwelwyr na rhoi cyfraniad. Pobl wedi eu geni a'u magu yma. Y rheiny yn treulio orig ddifyr yn astudio'n fanwl, yn hel atgofion a rhyw wenu'n hiraethus. Braf oedd sylweddoli fod y si wedi mynd ar led ymhellach na'r plwyf, wrth i blant y fro daro i mewn. Difyr oedd clywed ganddynt am y dawnsfeydd yn y neuadd; yr afon; y dwnan a'r gwylanod wedi rhewi yng ngaeaf caled 1947; y te partis yng Nghraig y Môr a'r Haulfryn a'r dathlu mawr ar ddiwrnod regata. Roedd presenoldeb y gwahanol bobl yn arwydd o lwyddiant y pythefnos. Beth nesaf a ninnau wedi cadw'r lluniau? Y freuddwyd fawr yw agor amgueddfa, ond rhaid cropian cyn cerdded! Dros y gaeaf bydd rhaid casglu rhagor o luniau, a'r haf nesa? Gwyliwch a gwrandewch.
 |