Mi fu i mi ddechrau glanhau gwartheg pasgedig oherwydd fod gennyf gawell i ddal gwartheg ar gyfer trin eu traed, ac felly rwyf am roi'r cefndir i'r trin traed yn gyntaf.
Pan oeddwn yn ddwy ar bymtheg i ddeunaw oed, yn y coleg yn Aberystwyth yn astudio Amaeth, mi fu i fy nhad gael dyn draw o Loegr i drin traed ei wartheg. Roedd y dyn yma yn gwneud ei fywoliaeth yn gyfan gwbl o drin traed gwartheg.
Cyn hyn dim ond milfeddyg gyda chyllell heb fin a darn 0 raff oedd yr unig drin traed yr oeddwn yn ei ddeall.
Pan gefais y cyfle i fynd ar brofiad gwaith o'r coleg, mi fu i mi fynd i weithio gyda 500 o wartheg godro yn Sir Gaerfyrddin, ac yno y bu i mi ddod i ddeall sut oedd posib gwneud bywoliaeth o drin traed gwartheg.
Roedd un o'r dynion a oedd yn godro'r gwartheg hefyd yn mynd allan i drin traed gwartheg rhwng godriadau y bore a'r prynhawn ac ar ei ddiwrnod o orffwys.
Ar ôl ei weld wrthi yn trin traed y gwartheg gyda chawell arbennig a oedd wedi ei greu ar gyfer dal buwch i drin ei thraed mi benderfynais fod y swydd yma yn syniad da gan nad oedd yna neb yn Llŷn yn ei gwneud.
Ar ôl darfod yn y coleg, mi fu i mi chwilio am golegau a oedd yn dysgu y grefft yma.
Yn y diwedd mi fu i mi ddarganfod bod Coleg Reasheath ger Nantwich yn darparu gwersi am bedwar diwrnod, ac yno yr es ym mis Medi 1996.
Er nad oedd raid i mi gael unrhyw addysg cyn cynnig y gwasanaeth roeddwn yn teimlo ei fod yn beth mwy cyfrifol cael gwybod yn iawn beth i'w wneud cyn mynd i'r afael a gwartheg pobol eraill.
Ar ôl cael yr addysg mi fu i mi gael benthyca arian gan fy nhad i brynu un cawell i ddal buwch ac un cawell i ddal tarw (gan fod tarw yn rhy fawr i fynd i'r cawell dal buwch).
Y ddau le cyntaf yr es i i drin traed am arian (gan fy mod yn gwneud am ddim i fy nhad) oedd Ty'n Llan, Edern a Bryn Rhydd, Edern.
Nid ydwyf yn cofio sut y cefais fynd i Bryn Rhydd ond rwyf yn cofio'n iawn sut y cefais fynd i Tŷ'n Llan.
Ar y pryd roeddwn yn ddigon ifanc i fynd i Glwb Ffermwyr Ifanc Porthdinllaen ac roedd Teri Tŷ'n Llan yn arweinydd y Clwb.
Mi fu i mi sôn wrtho fy mod wedi bod yn dysgu trin traed a fy mod wedi pry nu celfi ar gyfer gwneud yn iawn.
Mi ddywedodd Teri wrthyf y buasai yn dweud wrth Guto, ac wythnos yn ddiweddarach yn y Clwb mi gefais wahoddiad gan Teri i fynd draw i Dy'n Llan i drin ychydig o draed.
Naw mlynedd a hanner yn ddiweddarach rwyf yn dal i gael mynd i Tŷ' n Llan i drin traed ac mae'n rhaid diolch i Teri am hyn.
Mae yna ddau reswm dros drin traed gwartheg, sef (i) bod y carnau wedi tyfu yn rhy fawr nes bo'r anifail wedi mynd i gerdded yn flêr neu'n anghyfforddus, neu (ii) bod y ddaear galed neu goncrid wedi rhoi pwys ar y carnau ac wedi creu c1eisiau sydd wedi datblygu'n friw, sydd yn ei dro yn creu gwayw ac yn gwneud i', gerdded yn flêr neu anghyfforddus.
Mae trin traed y gwartheg yn golygu i carnau a'u sythu, fel bod yr anifail yn cerdded yn well.
Os nad yw hyn yn gweithio, yna mae'n rhaid trin o gwmpas y briw a thynnu'r pwysau oddi arno fel bod y briw yn cael amser i wella.
Ystyr glanhau gwartheg pasgedig yw cael gwartheg yn lân ar gyfer mynd i'r lladd-dŷ.
Mae'n rhaid gwneud hyn oherwydd glanweithdra - sef iechyd yn y bôn. Os yw'r anifail yn fudur mi all y baw heintio'r cig a chreu salwch i'r bobol a fydd yn ei fwyta.
Felly mae'n rhaid torri'r baw i ffwrdd o groen y fuwch fel nad ydy o'n cyrraedd y cig. Mae hwn yn waith peryglus iawn ond mae'n rhaid i rywun ei wneud.
Rwyf yn gobeithio fy mod wedi esbonio fy swydd yn ddigon di-lol fel bod y rhai an-amaethyddol yn eich plith yn deall beth yw fy swydd a pham fy mod yn ei gwneud.