Wedi tair blynedd o ymdrechu caled, mae gobeithion y pwyllgor lleol sydd wedi bod wrthi'n brysur yn codi arian tuag at gynnal yr Ymrysonfa Gŵn Defaid Genedlaethol ar dir y Faerdref, Botwnnog, ar ddyddiau Mercher, Iau a Gwener, 20-22 Awst,. bron a chael eu gwireddu. "Bu'n dair blynedd o waith caled, ond tair blynedd gofiadwy," meddai Ieuan Williams, Cadeirydd y pwyllgor.
"Yn wir, heb frwdfrydedd pobol Llyn, amhosib fyddai llwyddo ac fe hoffwn i ddiolch o galon i bawb am y gefnogaeth hynod a gawsom.
"Mae'n dyled yn amhrisiadwy hefyd i'r brodyr Idris a William Huw Roberts, perchnogion y Faerdref, am eu hynawsedd a'u cefnogaeth barod.
"Dim ond gobeithio y bydd yr haul yn gwenu ac y bydd yno, rhwng y cŵn a'r bugeiliaid, y stondinau amrywiol ar y maes a'r gwmnïaeth, rywbeth at ddant pawb."
Hanes
Bu dynion o Lyn yn allweddol yn sefydlu Ymrysonfa Genedlaethol yng Nghricieth yn 1922, gyda'r gweithgareddau yn digwydd ar dir Mynydd Ednyfed.
Ymhlith yr arloeswyr yr oedd John Pritchard, Blaenau Ganol, Llithfaen; Hughie Darbyshire, Maes y Cwm, Llanaelhaearn; Ifan Pritchard, Gwenllyn, Llannor (Llwyn, Pentreuchaf, wedyn) a John
Jones, Trawsfynydd, gyda'r Fonesig Lloyd George, fel un o gefnogwyr brwd y fenter, yn aelod o'r pwyllgor.
Dros y blynyddoedd cododd meistri yn y
grefft, pobol fel Alan Jones, Hafod, Llithfaen (Lleuar Bach, Pontllyfni, wedyn); Robert Ifan Pritchard, Tŷ Isaf, Rhydyclafdy; Gwynfor Pritchard, Cadair Elwa, Llangybi; Ieuan Williams, Llithfaen Bach a William T. Pritchard, Bwlch, Llithfaen.
Nid cyd-
ddigwyddiad chwaith sy'n cyfri bod y
cyfenw Pritchard yn gyffredin i'r rhai a enwyd, oherwydd yr oeddynt i gyd, yn cynnwys Alan Jones, yn hanu o'r un teulu.
Daeth enwau John Pritchard ac Alan Jones, enillwyr ar fwy nac un achlysur, yn gyfarwydd drwy Gymru a thu hwnt.
Mae plant John Pritchard, sef Ifan, Garej Morfa, a'i chwaer, Lydia, sy'n byw yn y Bontnewydd, yn cofio'u tad yn cerdded milltiroedd ar draws gwlad i gystadlu, a'r cŵn wrth ei sodlau.
Yn ddiweddarach prynwyd motor beic a'r
cŵn yn cael eu cario yn y seicar!
Enillodd Ifan Pritchard brif dlws Ymrysonfa'r White City yn Llundain yn 1937.
Roedd hi'n gryn gamp ennill y Rhuban Glas yno, ac er bod yna adlais o fyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn enw'r tlws, coler las, er anrhydedd i'r ci oedd y tlws hwn!
Gwely a brecwast
Dywed Medwen, gweddw Alan, fel y bu iddi yn y flwyddyn 1953, a hithau newydd briodi, fynd yng nghwmni ei gŵr a John Pritchard, yr holl ffordd i ras gŵn Brighton.
Torrwyd y siwrnai mewn gwesty yn
Cheltenham.
Dwy bunt oedd cost gwely
brecwast iddi hi ac Alan, a chostiodd y pryd gyda'r nos gyfanswm o saith swllt a naw ceiniog iddynt. Y fath newid a fu!
Mae record Alan, Pencampwr 1959,61,62, 71 a 76, yn un na fydd yn hawdd i neb ei churo.
Bydd y pymtheg bugail ddaw i'r brig, ac
fydd yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru y yr Ymrysonfa Ryng-genedlaethol ym mi Medi, yn derbyn tlws a wnaed gan Ann Smith, y grefft-wraig mewn gwydr o'r Rhiw.
Bydd y goreuon yn mynd adref y berchnogion ar wobrau unigryw yn ogystal a tlws.
Bydd y pencampwyr yn derbyn sampler o waith Beti Jones, Rhos y Foel, Llannor erstalwm, rhodd gan Catrin Jones, Crugan, Llanbedrog.
Mae englyn enwog ei thaid, y
diweddar Tom Richards, Llanfrothen, i'r ci defaid wedi ei weithio i'r sampler.
Bydd y cystadleuydd ddaw i'r ail safle yn derbyn clustog ac enw'r Ymrysonfa mewn brodwaith
arno, rhodd gan Anwen Davies, Plas yng Ngheidio. Ffon fugail o waith Arthur Wyn Jones, Fron Olau, Llanbedrog, fydd gwobr y bugail ifanc uchaf ei farciau.
Meddai Ieuan, "Diolch i'r tri am eu gweledigaeth a'u parodrwydd i'n cefnogi fel hyn.
"Gwybod fod yna gefnogaeth y tu ôl i chi sy'n gwneud y gwaith o baratoi yn bleser.
"Hyderaf, gyda'r pris mynediad yn £3 a phlant Cynradd yn cae1 mynediad am ddim, y bydd yr ymrysonfa yn
fforddiadwy i bawb o bobol Llyn.
"Wrth weld y dyddiad yn agosáu, fy ngobaith yw y bydd yr
Ymrysonfa'n llwyddiant ysgubol."
GARETH WILLIAMS