Yn ystod mis Awst eleni, cafodd ymwelwyr i Lyn gyfle i flasu ychydig o'r iaith a'r diwylliant Cymreig. Cynhaliwyd digwyddiadau arbennig gan Gwlwm Diwylliant fel rhan o gynllun peilot er mwyn darparu gwybodaeth ac adloniant Gymreig i dwristiaid.
Yr actor Llion Williams oedd yn arwain y gweithgareddau diwylliannol a gynhaliwyd yn Nant Gwrtheym ac Oriel Plas Glyn-y-Weddw.
Chwe sesiwn Blasu laith oedd gan Ganolfan laith Nant Gwrtheym i'w gynnig, gyda Llion yn chwarae rhan y tiwtor.
Cafodd yr ymwelwyr gyfle i ddysgu ynganu enwau lleol, i gyfarch pobol ac ymateb i gyfarchiad yn Gymraeg, i gyflwyno eu hunain a'i gilydd, i ddysgu geirfa fwyd a diod syml a sut i ofyn
am bethau yn Gymraeg mewn siop neu gaffi.
Roedd y cyfan wedi ei gyflwyno mewn dull hwyliog ac ar ffurf gemau: er enghraifft, ar ôl dysgu geirfa fwyd a diod, cai aelod o'r gynulleidfa ei wadd i roi mwgwd am ei wyneb a blasu tamaid o'r bwydydd neu ddiferyn o'r diodydd oedd ar y bwrdd. Os oedd o'n llwyddo i'w henwi yn Gymraeg, roedd o'n cael blasu rhywbeth arall; os nad oedd o, roedd rhywun arall yn cael cymryd ei le.
Cafodd mynychwyr y sesiynau restr o fusnesau lleol sy'n cyflogi siaradwyr Cymraeg er mwyn iddyn nhw gael cyfle i ymarfer eu geiriau newydd tra'n siopio, bwyta ayyb yn ystod eu gwyliau.
Daeth tua 800 bobol i'r sesiynau yn ystod y pythefnos y'u cynhaliwyd nhw ac roedd eu hymateb yn bositif a chalonogol dros ben.
Noson Lawen
Cynhaliwyd dwy noson lawen ym Mhlas Glyn-y-Weddw, gyda nifer o artistiaid lleol yn cynnal y diddanwch. Y noson gyntaf cafwyd eitemau ar y delyn gan Gwenan Gibbard ac amrywiaeth o ganeuon gan Gôr Godre'r Eifl, gyda Derw Bach yn cyfeilio i'r dawnsio gwerin.
Yr ail wythnos, Hogia'r Mynydd oedd yn agor ac yn cloi'r noson gyda nifer o ganeuon poblogaidd a chafwyd eitemau hefyd gan ddau ganwr o Ruthun, Meirion Wyn Jones a John Price, a'r grŵp gwerin Band Arall. Band Arall fu'n cyfeilio i'r dawnsio gwerin a gynhaliwyd y tu allan ar y lawnt y tro hwn.
Y ddwy noson cafwyd straoon a chwedlau lleol gan Dafydd Davies-Hughes. Yn ogystal, roedd bwffe bys a bawd o gynnyrch o'r ardal ar gael ar ddechrau'r nosweithiau, gyda'r bwydydd i gyd yn rhoddion gan gwmnïau lleol: Bwydlyn, Bwyd Mor Llyn, Glasfryn, Y Bwtri, Cwmni Calon Lan, Warren Bakery, Hufenfa De Arfon a Dwyfor Tea & Coffee. Cafodd y bwyd ei ddarparu gan Ian a'i staff yng nghaffi Plas Glyn-y-Weddw.
Daeth 75 i'r noson lawen gyntaf a bu i gynifer a 95 o bobl fynychu'r ail - a braf oedd gweld arnrywiaeth o oedrannau a
chenhedloedd yn cymysgu gyda'i gilydd, gan gynnwys pobol o Rwsia, Vietnam, Twrci, Sbaen, Ffrainc, Yr Almaen, Iwerddon, Lloegr, Yr Alban a Chymru.
Dosbarthwyd ffurflenni gwerthuso yn ystod y nosweithiau llawen hefyd ac roedd yr ymateb yn ganmoladwy ac yn galonogol iawn. Fel y dywedodd un ymwelydd, "Mae cymaint o allu a doniau sydd heb eu cydnabod yn y gymuned leol. Er mai gwlad fach yw Cymru, rwyf wedi fy synnu gyda chyfoeth y talent sydd yma."
Dywedodd Gwyn Jones, Oriel Plas Glyn-y-Weddw, "Roedd blas gwir Gymreig yn perthyn i'r nosweithiau llawen a dyma'r adloniant gorau a gynhaliwyd yn yr Oriel erioed. Roedd y Plas yn orlawn o ymwelwyr a thrigolion lleol ac roedd yr awyrgylch yn gyfeillgar a phawb yn mwynhau'r profiad unigryw yn arw."
Ac meddai Eleri Llewelyn Morris ar ran Cwlwm Diwylliant: "Bwriad y prosiect hwn oedd cynnig cyfleoedd i ymwelwyr gael blas o ddiwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg. Rydym wedi derbyn ymateb gwych i'r holl weithgareddau a gynhaliwyd a'n gobaith rwan ydy adeiladu ar y sylfaen a osodwyd eleni, yr haf nesaf."
Fel rhan o weithgareddau Cwlwm Diwylliant, bydd nosweithiau yn rhoi cyflwyniad hwyliog i farddoniaeth Gymraeg yn cael eu cynnal gan Twm Morys yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy ar Medi 12 ac ar Hydref 7, 2007.
Er mai ar gyfer twristiaid y mae'r sesiynau yma'n bennaf, mae croeso i unrhyw un eu mynychu. Pum punt ydy'r pris, ac mae'n cynnwys gwydraid o win.