BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Dafydd TecwynYn fy ngwaith
Medi 2005
Dafydd Tecwyn
Ffarmwr. Athrawes. Siopwr. Nyrs. Mae pawb ohonon ni'n gwybod beth mae ein swyddi'n ei olygu ... neu ydan ni?
Yn y gyfres newydd hon, bydd nifer o wahanol bobol yn trafod beth yn union y maen nhw'n ei wneud yn ein gwaith o ddydd i ddydd - gan ddechrau efo Dafydd Tecwyn Ellis o Fynytho sydd yn Bostfeistr yn Llanbedrog:

"Pe bai rhywun yn gofyn imi beth fyddai fy mhrif ddiddordebau ar wahân i chwarae offerynnau cerdd a thrio fy llaw weithiau ar farddoni'n gaeth, mae'n ffaith mai gwneud symiau yn fy mhen fyddai'r ateb. Mae fy swydd fel postfeistr yn rhoi digon o gyfle i mi wneud hynny beth bynnag!

Erbyn hyn rwyf wedi cwblhau deunaw mlynedd yn y gwaith yma, ynghyd â chadw'r siop, ac wedi gwneud llawer o gyfeillion o'r herwydd.

Byddaf yn agor y swyddfa am naw y bore (wel, cyn naw wrth gwrs ond am naw yr agorir i'r cyhoedd). Caf gau fel arfer am hanner awr wedi pump, ond ar ôl hynny bydd angen cwblhau cyfrifon am y dydd a pharatoi gohebiaeth i'w anfon i ffwrdd fore trannoeth. Mae'r gorchwylion yma yn rhai dyddiol. Mae dydd Llun yn ddiwrnod hynod o brysur bob tro, a dydd Mawrth hefyd yr un modd.

Mae dydd Mercher ychydig yn ysgafnach, dydd Iau wedyn yn ddiwrnod go drwm, dydd Gwener yn gymhedrol tra bo bore Sadwrn yn weddol ysgafn. Bydd y swyddfa'n cau i'r cyhoedd am hanner dydd ar ddyddiau Mercher a Sadwrn.

Mae gwahanol daliadau llesol a phensiynau'n cael eu rhoi ar wahanol ddyddiau a gellir gadael i'r pensiwn redeg hyd at ddeuddeng wythnos heb ei godi. Ond ni roddir unrhyw bensiwn ymlaen llaw fel rheol! Fodd bynnag, os bydd taliad yn disgyn ar wyliau'r banc gellir hawlio'r tâl hwnnw yr wythnos flaenorol.

Ddydd Mercher tua dau o'r gloch byddaf yn dechrau mantoli'r cyfrifon er mwyn gofalu bod popeth yn dod yn gytbwys. Dyma orchwyl pwysig imi i'w gyflawni ar ddiwedd pob wythnos waith. Erbyn hyn mae'n llawer ysgafnach nag y bu.

Dro'n ôl, bu cryn chwyldro yng ngwaith y swyddfeydd post drwy wledydd Prydain. Gwnaethpwyd i ffwrdd yn gyfan gwbl â'r llyfrau pensiwn a'r docedi erbyn hyn ac mae hynny'n ysgafnhau tipyn ar fy ngwaith i achos byddai cryn waith cyfrif arnynt. Roedd yn ofynnol eu didoli a'u gosod mewn trefn cyn eu hanfon yn daclus i'r lleoedd priodol. Ond bellach mae gan bawb rif personol ac mae'r cyfrifiadur yn gofalu am y cyfan yn dra effeithiol! Diolch lawer amdano.

Yn ystod y trawsnewid bu llawer yn hynod o amyneddgar a deallus, ac erbyn hyn mae'r dyfroedd wedi tawelu a phopeth yn rhedeg yn esmwyth.

Mae hon yn swydd sydd gyda llawer o gyfnewidiadau'n digwydd ynddi o ddydd i ddydd bron. Ond nid oes dim ond eisiau codi'r ffôn ac mae'r Samariaid ar y pen arall yn awyddus iawn i gynorthwyo petai angen. Mae llawer iawn o waith i'w gyflawni gyda buddsoddiadau ac y mae pob llyfr o stampiau'n llyfryn go bwysig. Mae'n ofynnol bod yn ofalus rhag i un fynd ar goll. Mae stamp dosbarth cyntaf yn awr yn ddeg ceiniog ar hugain, ac un ail ddosbarth yn un geiniog ar hugain.

Mae anfon parseli i wledydd tramor yn bur gostus. Mae'r gost wrth gwrs yn dibynnu ar bwysau'r parsel a rhaid nodi'i gynnwys yn fanwl cyn ei anfon. Y mae cofrestru hefyd ychydig yn ddrud ond golyga fod yr ohebiaeth a anfonir heddiw yn cyrraedd pen ei thaith drannoeth yn ddi-ffael, o dalu'r gost ychwanegol.

Oes, mae llawer o waith i'w wneud mewn swyddfa bost, mwy nag a dybiai rhywun, ac mae peth wmbredd o wasanaethau i'w cynnig. Ond caf weithiau lannerch werdd, er enghraifft pan fo egwyl fach go dawel daw ambell gyfaill i mewn am sgwrs dderbyniol gan roddi newydd go flasus. Caf dair wythnos o wyliau yn flynyddol ar wahân i wyliau'r banc, a byddaf yn sicrhau y bydd yr wythnos gyntaf yn Awst yn cael ei neilltuo gennyf imi gael yr Eisteddfod Genedlaethol. Os bydd galw am fy ngwasanaeth i fod yn gyfeilydd eisteddfodol cyn hanner awr wedi pump mae awdurdodau'r Swyddfa Bost, yn hynod o ewyllysgar, yn rhoi caniatâd imi gau ychydig ynghynt fel bo'r galw - ar yr amod fy mod yn rhoi gwybod am hyn i'r cyhoedd mewn pryd.

Mae'r swyddfa bost mewn man hwylus iawn yn Llanbedrog, yn union yng nghanol y pentref. Diolch lawer am gymdogion caredig Brithdir, Glasfryn, Dolwar ac erbyn hyn y fferyllfa drws nesaf. Mae pawb yn gyfeillgar iawn. Rwyf yn hapus ac yn gartrefol yma, ac ar hyn o bryd yn cael pleser o gynorthwyo'r cyhoedd ac o fod o wasanaeth i'r gymuned yn y modd yma."


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy