BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
RhwyfoY wefr o rwyfo
Mai 2009
Oes awydd arnoch chi, fel trigolion Pen Llyn fanteisio ar y cyfle i fwynhau un o adnoddau gorau'r ardal, heb orfod gwario ar offer drudfawr?

Ydych chi wedi ystyried efallai ymuno a chriw Clwb Rhwyfo Pwllheli, a blasu'r wefr o rwyfo mewn cwch Celtaidd ar y môr?

Mae'r Clwb bellach yn berchen ar ddau gwch rhwyfo Celtaidd, pob un yn dal pedwar rhwyfwr/wraig ac un yn llywio.

Does dim angen i chi fod yn fath arbennig o berson fwynhau rhywfo. Yn wir, mae aelodaeth y Clwb wedi'i rannu'n eithaf cyfartal rhwng merched a dynion ac yn amrywio o 18 - 60+ ran oedran.

Dymuna'r Clwb sicrhau bod aelodau sy'n dymuno rhwyfo er pleser yn cael cystal chwarae teg a'r aelodau hynny sy'n dewis rhwyfo'n gystadleuol yng Nghynghrair Rhwyfo Gogledd Cymru, ac felly cynhelir sesiynau mwy hamddenol ar foreau Sul a nosweithiau Mercher, tra dynodir nosweithiau eraill yn ystod yr wythnos ar gyfer ymarfer timau.

Cynhelir rasys ar hyd arfordir Cymru yn ystod yr haf, o Borth Llechog ger Amlch i lawr at Aberaeron.

Un o uchafbwyntiau'r tymor yw cael cystadlu yn ras afon Tafwys yn Llundain ym mis Medi.

Ras 22 milltir yw hon gyda hyd at 300 o gychod o bob math yn rasio am ddwy awr a hanner trwy ganol Llundain.

Yn ogystal a hyn, mae'r Clwb yn awyddus i drefnu tripiau mwy hamddenol a chymdeithasol eu naws eleni.

Mi fydd hyn yn gyfle gwych i fanteisio ar olygfeydd anhygoel yr ardal a phrofi bywyd gwyllt yr arfordir. Dymuna'r Clwb sicrhau bod aelodau sy'n dymuno rhwyfo er pleser yn cael cystal chwarae teg a'r aelodau hynny sy'n dewis rhwyfo'n gystadleuol yng Nghynghrair Rhwyfo Gogledd Cymru, ac felly cynhelir sesiynau mwy hamddenol ar foreau Sul a nosweithiau Mercher, tra dynodir nosweithiau eraill yn ystod yr wythnos ar gyfer ymarfer timau.

Cynhelir rasys ar hyd arfordir Cymru yn ystod yr haf, o Borth Llechog ger Amlch i lawr at Aberaeron.

Un o uchafbwyntiau'r tymor yw cael cystadlu yn ras afon Tafwys yn Llundain ym mis Medi.

Ras 22 milltir yw hon gyda hyd at 300 o gychod o bob math yn rasio am ddwy awr a hanner trwy ganol Llundain.

Yn ogystal a hyn, mae'r Clwb yn awyddus i drefnu tripiau mwy hamddenol a chymdeithasol eu naws eleni.

Felly beth amdani? Oes arnoch chi awydd i flasu'r apêl o rwyfo ar y môr? Mae'r Clwb yn awyddus i ddenu rhagor o aelodau, boed hynny er mwyn rhwyfo hamddenol, cystadleuol neu hyd yn oed i lywio a chyfarwyddo!

Eleri Owen 01758 613195, neu eleriowen@eleriowen.plus.com.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy