| Bydd Helen ynghyd â'i dwy ffrind, Sarah Riley a Sonia collis o'r Felinheli, yn ymuno â chriw o 30 o bobl ar gyfer y daith. Yn ogystal bydd 30 o aelodau ychwanegol yn eu cyfarfod yn Nhanzania. Dywedodd Helen i'r syniad godi gynta tra roedd y dair ffrind yn fyfyrwyr ym mhrifysgol Lerpwl, ond y llynedd rhoddwyd ystyriaeth ddifrifol i'r syniad a phenderfynu mynd amdani. "Roeddem eisiau codi arian i un elusen, a chytunom ar chos Tŷ gobaith,"
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf maent wedi bod wrthi'n byrsur yn codi arian drwy amrwy o weithgareddau gan gynnwys pacio bagiau mewn archfarchnadoedd a chynnal noson o'r enw "Wafrica" yn Felinheli ar thema Affrica/Cymru. Yn ogystal fe gafwyd diwrnod o hwyl 'Miri Medi' ym Mhwllheli yn ystod mis Medi llynedd a rhwng y ddau weithgaredd yma llwyddwyd i gasglu'r swm anrhydeddus o £6,000.
Ychwanegodd Helen; "Hyd yn hyn rydym wedi codi dros £11,000 ac yn dal i gasglu.
"Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb gymorth a charedigrwydd busnesau, perfformwyr ac unigolion lleol." Mae'r daith wedi ei threfnu gan Action Challenge a chyn y Nadolig cafodd Helen a'i chyd-deithwyr , y cyfle i gyfarfod ac i ddod i adnabod ei gilydd yn Llundain. "Cawson gyfle i drafod a sgwrsio am wahanol elfennau'r antur," meddai. Bydd y daith yn cychwyn Chwefror 26 a byddant yn teithio llwybr a elwir yn Machame a fydd yn eu harwain drwy bob math o dirwedd fydd yn amrywio o goedwigoedd jwngl i eira. Mae disgwyl iddynt gymryd pum nowrnod i gyrraedd y copa, a rhyw ddau ddiwrnod i gerdded yn ôl i lawr. Cyn dychwelyd i Gymru fach bydd cyfle i fwynhau 'cinio gala' yn eu gwesty ym Moshi. Dymunwn bob lwc i Helen a'i ffrindiau Llanw Llŷn
 |