Blwyddyn newydd, y dydd yn ymestyn a'r paratoadau ar fin cychwyn ar gyfer tymor gwyliau arall ym mhen Llyn. Ond mae'r Pasg yn dal ymhell i ffwrdd, yn tydi? Mae digon o amser felly i berchnogion gwestai, meysydd carafannau ac yn y blaen i wneud ychydig o waith atgyweirio neu i fynd ar wyliau bach - neu i ddarllen hunangofiant y Comeback Kid, Dafydd Iwan.Rhowch eich traed i fyny waeth i chi hynny ddim. Does dim diben trïo agor am fusnes yr adeg yma o'r flwyddyn: wnewch chi yr un geiniog goch gan nad oes neb yma ar eu gwyliau p 'run bynnag! Ond wê 'wan, am funud bach: ydy hynny'n wir?
Fe es i am dro yn y car ddydd Calan o amgylch Llyn, yr unig ffordd o gael y ferch i gysgu - ac wrth fynd heibio i waelod Tre'r Ceiri, i lawr am Lanaelhaearn, gwelais bump o geir wedi'u parcio. Dim byd yn annisgwyl nac yn anghyffredin yn hynny, meddach chi. Ond yn cychwyn allan o ddau ohonyn nhw roedd criw o wyth o gerddwyr proffesiynol (roeddwn yn gallu dweud eu bod yn cîn gan eu bod nhw i gyd yn gwisgor gêr costus.) A heb fod yn athrylith, roeddwn i hefyd fwy neu lai yn gallu dod i'r casgliad mai o du allan i'r ardal roedden nhwn hanu, mae'n bosib dweud ydy rhywun yn Sais neu'n Gymro yn ei gynefin o'i bryd a'i wedd yn unig bron ( fel y mae merch sy'n gweithio'n Jewsons yn gallu dweud a ydy rhywun yn hanu o Nefyn neu beidio o'r ffaith ei fod yn gwisgo crys T siec: stori hir, peidiwch â gofyn!)
Does dim dwywaith nad ydy Tre'r Ceiri yn un o'r trysorau pwysicaf sydd gennym yma yn Llyn, os nad yng Nghymru. Does dim amheuaeth chwaith bod potensial yma i wneud llawer mwy o'r safle er lles yr economi leol, ond mae honno hefyd yn stori arall.
Yr hyn sy'n berthnasol yn y cyd-destun yma ydy nad Tre'r Ceiri yn unig oedd yn denu'r ymwelwyr ar ddechrau'r flwyddyn. Mae ymwelwyr yn dod yma trwy gydol y flwyddyn bellach, am rhyw seibiant bach ar benwythnosau'n bennaf, er mwyn mwynhau yr harddwch naturiol y mae llawer ohonom ni'n ei gymryd yn ganiataol.
Ond onid dyma'r broblem? Rwyf yn ymwybodol fy mod yn rhefru 'mlaen bob mis, bod angen newid chwyldroadol yn y ffordd rydan ni'n gweithredu o fewn y diwydiant twristiaeth yma yn Llyn, y ffordd rydan ni'n byw o ddydd i ddydd, o flwyddyn i flwyddyn. Er hynny, yn bersonol, mae arnaf innau hefyd dipyn o ofn newid. Rwyf yn ei gweld yn bechod garw bod hen draddodiadau a chrefftau wedi eu colli yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf, mewn un genhedlaeth yn unig.
Yn corddi bron wrth glywed un neu ddau o Gymry ifanc yn siarad Saesneg gyda'i gilydd ar strydoedd Nefyn, gan feddwl eu bod nhw'n cwl - rhywbeth na fuasai fy nghenhedlaeth i byth wedi meddwl am ei wneud lai nag ugain mlynedd yn ôl.
Ond, er gwaethaf y pryderon, newid mae pethau a newid wneith pethau eto: does dim amheuaeth am hynny. Y cwestiwn sydd yn rhaid ei ofyn ydy: a ydym ni, y bobol gynhenid, am gael unrhyw ddylanwad ar newidiadau'r dyfodol?
Mae'n bosib bod modd goroesi trwy'r defnydd a wnawn o'r diwydiant twristiaeth. Gallem gael cyfle i estyn oes ein traddodiadau, yr iaith a'r diwylliant trwy greu atyniadau twristaidd cadwraethol a threftadol.
Ar ymweliad ag Ynys Skye yng ngogledd orllewin Yr Alban cefais brynhawn cyffrous iawn ar safle oedd yn ail-greu ffordd o fyw cenedlaethau o'r werin mewn gwahanol gyfnodau yn ystod y canrifoedd diwethaf. Roedd yn bosib gweld yn union sut yr oeddent yn byw o fewn y cartref, yn trin yr anifeiliaid a'r tir, ac yn y blaen ar safle weddol syml, rhyw erw neu ddwy o faint ar y mwyaf. Pam na fedrwn ni wneud rhywbeth tebyg yma?
Bydd y bêl yn cychwyn troi rhywbryd yn y dyfodol. Mae gormod o botensial yma i hynny beidio â digwydd. Y cwestiwn ydy, a ydyn ni am adael i erydiad diwylliannol ddigwydd yma, o ganlyniad i ehangiad yn y diwydiant twristiaeth lleol? Am adael i'r diwylliant coca-cola Eingl-Americanaidd gymryd drosodd yma hefyd? Am fwyta byrgyr McDonalds yn y dyfodol yn hytrach na stêcs brau a blasus Bîff Llyn?
Pwy sydd yn fodlon mentro?
Y ffaith amdani yw bod yma un neu ddau o fusnesau sy'n agored trwy gydol y flwyddyn yn barod, sydd eisoes yn mentro ac yn gwneud eu tamaid yn ddistaw bach. Beth sydd ei angen arnom rwan yw adeiladu ar yr atyniadau prin sydd yma a ffurfio rhyw fath o drefn a chydweithrediad, fel bod gwasanaeth cyson a mwy eang ar gynnig i unrhyw un sydd am ymweld â ni yn ystod y gaeaf, neu unrhyw adeg arall or flwyddyn.
Dyma'r lle mae modd gweld mantais Cymdeithas Dwristiaeth effeithiol. Rydym ymhell o gyrraedd y nod. Ydy, mae hi wedi bod yn flwyddyn gyntaf eithaf llwyddiannus, ac mae'r pwyllgor wedi gwneud popeth posib o dan yr amgylchiadau. Ond yn anffodus, un cam bach mewn taith hir sydd wedi'i gymryd. Mae angen i ni fod yn rhan o'r ymdrech ac, yn y pen draw, ddylanwadu ar unrhyw newid a manteisio ar unrhyw fudd economaidd. Mae angen strategaeth adeiladol effeithiol a chynaladwy arnom.
Beth sy'n bwysig ar gyfer ein dyfodol?
Yn y byd sydd ohoni, gydag arweinwyr yn ein rhybuddio o ryfeloedd diangen a dymchweliad yn yr economi, does dim gwarant dros y dyfodol. Mae'n rhaid i bob un ohonom greu rhyw fath o restr ddaliadau yn blaenoriaethu beth yn union sy'n bwysig ar gyfer ein dyfodol a dyfodol ein plant. Byddai amgylchedd glân yn amlwg ar frig rhestr pob person yn ei iawn bwyll (dydy hynny ddim yn cynnwys Blair na Bush.) Ac ar fy rhestr i, a nifer o bobol eraill lleol, byddai parhad y diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg hefyd ac mae angen economi well arnom i gynnal rhain. Mae hynny'n golygu diwydiant twristiaeth llawer iawn mwy effeithiol a chynaladwy. Ymunwch â Thwristiaeth Llyn cyf. Am £20 y flwyddyn: mae'n fuddsoddiad da iawn ar gyfer y dyfodol.
Pwysleisir mai sylwadau a daliadau personol sydd uchod, ac nad oes yma adlewyrchiad mewn unrhyw ffordd o ddaliadau swyddogol Cymdeithas Dwristiaeth Llyn nac unrhyw aelod ohoni.
Gwyn Jones