Ar ddiwrnod San Steffan mae'n draddodiad bellach i Gwenda Parry, Iain Roberts, John Alun Jones a Geraint Williams fynd i'r mor i godi arian at yr Ambiwlans Awyr. Maent wedi llwyddo i godi miloedd tros y blynyddoedd. Ychydig cyn y Nadolig y daeth Gwenda Parry yn ôl o'i theithiau yn Awstralia, ac mi roedd rhai yn amau ei bod ar ei ffordd yn ôl yno wrth iddi fentro nofio allan o draeth Aberdaron! Meddai Gwenda: "Roedd hi'n ddiwrnod tawel a'r mor yn llonydd. Unwaith ro'n i yn y dwr do'n i ddim ishio dod allan." Eleni ymunodd criw da o bobl ifanc efo nhw ac mi fu'n ddiwrnod llwyddiannus iawn. Maent yn dal i dderbyn cyfraniadau at yr Ambiwlans Awyr.
 |