| Diben y cyfarfod ar ddydd olaf Chwefror 1405 oedd rhannu Cymru a Lloegr rhwng y tri, petaent yn gorchfygu brenin Lloegr a'i ddiorseddu. Y tiroedd a oedd i ddod i Henry Percy oedd i'r gogledd o'r Afon Trent; Mortimer oedd i gael i'r de o'r afon honno, ac i'r Tywysog Owain o'r Afon Hafren tua'r gorllewin hyd at y môr. Peidiwch â meddwl mai dyfynnu o nofel gan T. Llew Jones neu nofelydd cyffelyb yr ydwyf. Nage wir, fe ddigwyddodd hyn o ddifrif, ac nid yn unig mewn pentref glan môr yng Nghymru ond yma yn Llŷn (ac onid yw hi'n warth ar bwy bynnag sy'n gosod y cwricwlwm hanes yn ein hysgolion nad ydym yn gwybod hyn eisoes). Dyma'r hanes: Cyfarfu'r tri yn nhŷ Dafydd Daran, tŷ oedd yn perthyn i Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron, ac sydd bellach yn rhan o far Gwesty'r Ship. Dechreuodd y flwyddyn 1405 gydag arwyddo'r cytundeb Cymric-Ffranco yng Nghastell Aberystwyth ac yna, ar yr 28ain o Chwefror, arwyddo Cytundeb y Tridarn yn Aberdaron. Beth bynnag, dyna fu uchafbwyntiau y flwyddyn i'r Cymry gan i ymosodiad mawr ar Loegr ym mis Awst fod yn aflwyddiannus, y flwyddyn hon oedd dechrau'r diwedd i achos Glyndŵr. Cyn hynny cafwyd colled enbyd ym mrwydr Pwll Melyn ar y 5ed o Fai. Digwyddodd hyn wythnosau yn unig ar ôl y cyfarfod yn Aberdaron, pan oedd y tri oedd yn bresennol yn amlwg yn hyderus o lwyddiant. Petaent wedi bod yn llwyddiannus byddai hanes Cymru a Lloegr wedi bod yn wahanol iawn. Yn wir, buasai Lloegr fel gwladwriaeth a brenhiniaeth wedi peidio a bod. Ond pam dod i ben draw Llŷn o bob man, ac yng nghanol gaeaf. Wel, yr unig gasgliad y gellir dod iddo yw cyfrinachedd ac y credent y buasent yn fwy diogel yma nac mewn aml i fan arall. Ond nid oes raid i chi ddarllen a gwrando ar y stori gen i, mae arddangosfa bellach yn Eglwys Sant Hywyn sy'n dweud yr hanes i gyd. Mae cynlluniau ar y gweill i ddathlu yn y fro trwy gael gweithgareddau sy'n gysylltiedig a'r achlysur pwysig hwn yn ein hanes. Cadwch eich llygaid yn agored am fwy o fanylion.
 |