Nid felly mae hi gyda Menter y Felin Uchaf, Rhoshirwaun. Mae'r fenter bellach wedi cael caniatâd cynllunio i godi adeiladau mewn dull traddodiadol ar y fferm. Y nod yw i gadw, a dysgu am yr hen draddodiadau, trwy agor canolfan fydd yn cynnig cyfle i astudio amgylchedd a diwylliant yr ardal. Bydd cyrsiau'n cael eu cynnal ac adeiladu mewn dull traddodiadol yn rhan o'r cyrsiau. Bydd canolfan yn cael ei hadeiladu o glai, coed a hesg ac mae adeilad arall a fydd, mwy neu lai, o dan y ddaear. Mae amryw o fyfyrwyr a phlant o ysgolion yr ardal eisoes wedi bod draw yn rhoi help llaw i blannu coed. Mae gwaith ar droed i godi gwrychoedd yn ôl i roi cysgod i erddi amrywiol. Eisoes mae dros 10,000 o goed cynhenid wedi eu plannu. Menter gymunedol ydy Menter y Felin Uchaf ac mae croeso i bobl ymuno â Chyfeillion y ganolfan neu fynd draw yno i wirfoddoli. Bydd rhai'n gweithio yno bron bob pen wythnos. Meddai Dafydd Davies Hughes sy'n gyrru'r fenter: "Fydd dim byd yn digwydd tros nos, ond mae pethau'n dechrau symud rwan. Y peth braf yw gweld pobl o gwmpas yn taro i mewn ac yn sgwrsio am sut oedd pethau'n cael eu gwneud erstalwm. "Mae'n wych yn Rhoshirwaun gan fod llawer o'r sgiliau traddodiadol yn dal gan bob lleol." Mae'n fwriad i gael pobl ifanc lleol a phobl o dramor i fynd yno i astudio a gwirfoddoli er mwyn datblygu cysylltiadau rhyngwladol. Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae'r Fenter wedi bod yn arddangos o gwmpas yr ardal - yn yr ysgolion ac yn Neuadd Dwyfor - ac mae'r arddangosfa i'w gweld o hyd yn y Felin Uchaf, Rhoshirwaun. Sut i fynd yno? Trowch i'r chwith yn Rhoshirwaun ac i'r chwith wedyn wrth y blwch postio coch - mi ewch ar goll ond beth yw'r ots pan yn crwydro mewn ardal mor hyfryd ym mherfeddion hen wlad Llyn!
 |