| Daeth y ddau fwthyn i berchnogaeth yr
Ymddiriedolaeth yn sgil etifeddu ystad Plas yn
Rhiw, ac mae'r ddau dyddyn ar hyn o bryd yn
sefyll yn wag ac angen dipyn o waith arnynt.
Dydd Sul Ebrill 11eg cynhaliwyd diwrnod
agored er mwyn i bobl yr ardal gael mynd i weld
y ddau fwthyn ac i roi eu barn ar y cynlluniau.
Roedd y cynlluniau yn cael eu harddangos yn
Neuadd y Rhiw ac oddi yno yr arweiniodd
Kevin Roberts o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, griw o tua 20 o bobl heibio i
Eglwys Aelrhiw draw at y bythynnod. Maent yn lleoliad bendigedig, yn enwedig ar ddiwrnod o wanwyn braf. Y cyntaf yw Tan yr Ardd. Yma bwriedir addasu'r bwthyn, ei insiwleiddio i safon uchel, gosod paneli solar i gynhesu dŵr, a phaneli ffotofolteic i gynhyrchu trydan, a'i osod ar rent i rywun lleol. Y bwriad yw defnyddio deunyddiau gwreiddiol fel plastr ca1ch a'i gadw mor debyg i'r gwreiddiol a phosib, tra'n ei wneud yn addas ar gyfer byw ynddo heddiw.
Mae Frondeg am gael ei adnewyddu gan
gadw yn union i'r hyn a safai yno yn y 1890 ¬- 1900au. Wrth ddod i mewn drwy'r drws mae
palis a silffoedd ar yr ochr chwith, a'r siambr ar yr ochr dde, gydag ysgol yn dod i ganol y llawr
yn arwain i fyny i'r groglofft. Bydd yn cael ei ail-doi gyda llechi bach a phegiau pren yn y dull
traddodiadol. Yno hefyd mae cwt mochyn
crwn, mewn cyflwr ardderchog.
Un gynlluniau Partneriaeth Tirlun Llyn
yw hwn ac mae'r Bartneriaeth a'r
Ymddiriedolaeth yn awyddus iawn i'r
gymuned fod yn rhan o'r cynllun. Maent yn
awyddus i glywed am hanesion y rhai fu'n byw
yma yn y gorffennol ac am unrhyw ddodrefn, grât, neu declynnau fyddai pobl yn awyddus i'w
harddangos yno. Bydd cyfle hefyd i wirfoddoli a
chael dysgu sgiliau adeiladu traddodiadol trwy gyfrwng y cynllun.
 |