Cynhelir yr arddangosfa am fis yn dechrau ar y 6ed o Fehefiin ac mae croeso i drigolion Llŷn ddod draw i edmygu cyfoeth ein treftadaeth arfordirol.Yn yr arddangosfa hon, bydd cyfle i weld dehongliadau nifer p arlunwyr gwahanol p arfordir Llŷn - ac yn eu mysg mae dwy arlunwraig sydd â chysylltiadau â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llŷn.
Bydd ugain o ddarluniau gan Honor Keating, un o'r tair chwaer ecsentrig oedd yn byw ym Mhlas yn Rhiw, yn cael eu harddangos am y tro cyntaf. Paentiadau dyfrlliw yw'r rhain sydd wedi bod yn y storfa ym Mhlas yn Rhiw ers dros hanner canrif, a heb weld golau dydd o'r blaen. Roedd Honor yn arlunydd medrus iawn ac wedi cael ei hyfforddi yn Ysgol Gelf y Slade. Yr hyn sy'n hynod am ei gwaith ydy'r ffaith bod iddo apêl gyfoes ac mae ei lluniau'n reit ffasiynol heddiw.
Hefyd bydd cyfle i weld oddeutu 20 o luniau gan Kim Atkinson o Uwchmynydd. Yn 2002, comisiynwyd Kim i wneud nifer o frasluniau ar gyfer cyfres o lyfrynnau Am Dro yn Llŷn ac, erbyn hyn, mae'r llyfrynnau hyn yn boblogaidd iawn gyda'r ymwelwyr sy'n dod i gerdded arfordir y penrhyn.
Er nad oedd o'n fwriad i arddangos y brasluniau'n gyhoeddus, teimlai staff yr Ymddiriedolaeth eu bod yn ddigon da i'w fframio - ac felly dyna benderfynu eu cynnwys yn yr arddangosfa.
Mae'r Ymddiriedolaeth wedi cynhyrchu printiau a chardiau o waith Honor Keating a Kim Atkinson a bydd y rhain ar werth yn Oriel Glyn y Weddw er mwyn codi arian at y gwaith o ofalu am ein harfordir prydferth.
Mae Oriel Plas Glyn y Weddw yn agored bob dydd ar wahân i ddydd Mawrth, rhwng 11 y.b. a 5y.h. Y tâl mynediad ydy £2.50 i oedolion neu £5.00 i deulu, tra bod mynediad am ddim i Gyfeillion yr Oriel.
Mae Kim Atkinson yn un o'r criw sy'n gosod Llanw Llŷn bob mis, felly dyma ofyn iddi hi am ychydig o'i hanes:
"Rydw i'n byw yn Uwchmynydd, ger Aberdaron: mae un cae i'w groesi cyn cerdded dros y grug a'r eithin ar Drwyn Bychestyn. Mae Ynys Enlli yn eistedd dros y môr; yno rôn i'n byw fel plentyn pan oedd fy rhieni yn ffermio yno, a wedyn, ar ôl bod yn y Coleg Arlunio Brenhinol rhwng 1987 a 1996, mi wnes i fyw ar yr ynys efo fy ngŵr Gwydion (Morley), yn gweithio fel arlunydd, yn astudio adar a thirlun yr arfordir.
Ar ôl dod i fyw ar y Tir Mawr, mi wnes i barhau efo fy ngwaith, ac ym 1998 gofynnodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol imi wneud darluniau ar gyfer pump llyfryn bach, Am Dro yn Llŷn ac Am Dro ym Môn. Mi ges i amser braf yn gwneud ymchwil i ardaloedd Cemlyn, Cemaes, Pistyll a Phorthdinllaen; roedd Porthor, Aberdaron ac Uwchmynydd yn fwy cyfarwydd imi'n barod. Ar ôl geni fy mab Robat yn 2000, mi ddaeth o hefo fi hefyd, yn cysgu mewn pac cefn tra oeddwn i'n paentio.