Dod ag un o brif ganolfannau diwylliannol Llŷn yn agosach at y gymuned leol yw un her sy'n wynebu gŵr o Nefyn sydd wedi dechrau ar swydd newydd y mis hwn. Nod Gwyn Jones sydd newydd gymryd yr awenau fel cyfarwyddwr Oriel Plas Glyn y Weddw yn dilyn ymddeoliad David Jeffreys ydi adeiladu ar lwyddiant yr oriel a dywed ei fod yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr her a'r sialens sy'n ei wynebu."Rhaid dweud nad oeddwn i'n gwybod llawer am y Plas tan tua phedair blynedd yn ôl pan ddechreuais i weithio fel swyddog marchnata i Gymdeithas Twristiaeth Llŷn," cyfaddefodd, "er 'mod i wedi dod i wybod ychydig am y ganolfan trwy fy swydd flaenorol gyda Champion FM."
Mae gan y Plas eisoes lawer i'w gynnig i'r sawl sy'n arbenigo neu â diddordeb yn y byd celf, ynghyd â thwristiaid a phobl leol, ond y dasg sydd yn wynebu'r cyfarwyddwr newydd ydi datblygu'r adnoddau er mwyn denu ystod mwy eang o bobl i'r Plas ac, yn sgîl hynny, cynyddu'r refeniw.
"Mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i gadw safon yr arddangosfeydd, tra ar yr un pryd gwneud y Plas yn fwy agored i'r gymuned leol. Dw i am weld mwy o bobl leol yn dod i weld yr arddangosfeydd a hefyd dw i'n awyddus i weld y Plas yn cael ei redeg nid fel oriel yn unig ond fel canolfan i'r gymuned leol," meddai.
"Efallai bod tueddiad i weld yr oriel fel rhyw ganolfan elitaidd sydd braidd yn Seisnigaidd - ond dydy hynny ddim yn fwriadol. Oriel y bobl ydi hi - ac oriel Gymreig."
Cafodd Oriel Plas Glyn-y-weddw ei hailsefydlu gan Dafydd a Gwyneth ap Tomos ar ddiwedd y 70au, ac mae llwyddiant y fenter ar hyn o bryd yn mynd o nerth i nerth. Eglurodd Gwyn ei fod yn edrych ymlaen yn eiddgar at y sialens o adeiladu ar y llwyddiant yma a bod ganddo amryw o syniadau newydd dan glust ei gap. Ond fel ym mhob achos, diwedd y gân ydi'r geiniog, ac yn wahanol i nifer o orielau eraill Cymru megis Oriel Mostyn, Llandudno a'r Galeri yng Nghaernarfon, dydi Plas Glyn-y-Weddw ddim yn derbyn nawdd ac felly rhaid cynhyrchu'r refeniw ar gyfer ei chynnal.
Dywed Gwyn yr hoffai gael mwy o gefnogaeth refeniw:
"Mae'n rhaid cael cydbwysedd. Mae angen arddangos gwaith celf sy'n mynd i werthu er mwyn creu arian i gynnal yr oriel ond hefyd mae angen gwaith sy'n mynd i dynnu sylw'r wasg er mwyn creu cyhoeddusrwydd - a phe bai'r Plas yn derbyn cefnogaeth refeniw byddai'n bosib arddangos mwy o waith cutting edge."
Gobaith Gwyn ydi medru gweithio efo mudiadau a sefydliadau eraill yn Llŷn er mwyn denu ymwelwyr i'r Plas:
"Datblygu twristiaeth gynaladwy yn Llŷn ydi nod sefydliadau megis Partneriaeth Twristiaeth Llŷn ac mae gan y Plas ran amlwg i'w chwarae yn yr ymdrechion yma oherwydd ei fod yn atyniad ardderchog i ymwelwyr. Ynghyd â Nant Gwrtheyrn a Chanolfan Tŷ Newydd, Llanystumdwy, mae'r Plas yn rhan o Gwlwm Diwylliant Llŷn; yn ogystal mae safle gwe 'Visit Llŷn' wedi ei sefydlu er mwyn hybu'r ardal ac mae taflenni wedi eu hargraffu hefyd. Mae'r Plas yn hybu diwylliant Cymreig ac mae angen pwysleisio'r elfen o Groeso Cymreig."
Un o gynlluniau Gwyn ydi creu perthynas rhwng y Plas a'r gwahanol sefydliadau sydd yn gofalu am fynydd Tir y Cwmwd. Mae'r Plas yn llechu ar odrau'r mynydd, sydd yn nodedig am ei fywyd gwyllt a llwybrau troed sy'n cynnig golygfeydd godidog, ac mae ymwelwyr wedi heidio i Lanbedrog ers degawdau er mwyn cerdded i'r rhan o'r mynydd a elwir yn "ben ddelw" er mwyn edmygu'r olygfa o'r traeth, Bae Tremadog, pentref Llanbedrog ac, wrth gwrs, y Plas.
Meddai Gwyn: "Mae'r Plas eisoes yn cynnig cyrsiau preswyl efo gwahanol artistiaid ac mae potensial i ddatblygu mwy o'r rhain; hefyd gellid creu adnoddau hunanarlwyo er mwyn denu cerddwyr yma ac fe hoffwn i greu gweithgareddau i ddenu mwy o blant yma. Edrych ar ôl yr ochr weinyddol ydi fy rôl i, gan ddibynnu ar arbenigwyr i wneud penderfyniadau ynglŷn â'r ochr gelf ac yn y blaen. Rydym yn ffodus bod gennym nifer o arbenigwyr yn aelodau o Gyfeillion Plas Glyn-y-Weddw ac ar fwrdd llywodraethol y Plas.
"Mae'n rhaid i'r newidiadau fod yn rhai graddol; rhaid bod yn ofalus i beidio a newid pethau yn rhy sydyn."
Fy ngobaith i fel artist ac athrawes gelf yn Ysgol Botwnnog yw y bydd Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn denu llawer mwy o gefnogaeth ariannol haeddiannol gan gyrff cyhoeddus megis Cyngor y Celfyddydau, ac y bydd yr oriel yn mynd o nerth i nerth gan ddod yn sefydliad celfyddydol blaenllaw i Lŷn a thu hwnt.
Mawr obeithiaf y bydd ystod ehangach o weithiau cyfoes, heriol a chyffrous yn cael eu harddangos yn y Plas. Heb os y mae digonedd o le a photensial y tu mewn a thu allan i'r Plas i arddangos llawer mwy na dim ond gweithiau traddodiadol mewn fframiau ar y wal.
Edrychaf ymlaen at allu cyfoethogi profiad gweledol plant a phobl ifanc Ysgol Botwnnog drwy fynychu arddangosfeydd a gweithgareddau celfyddydol yn y Plas. Wedi'r cyfan, oriel sy'n gwasanaethu Llŷn ydi Oriel Plas Glyn-y-Weddw - ac yn ôl Gwyn Jones, dyna fydd hi yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Dymunwn bob cefnogaeth a llwyddiant iddo yn ei swydd.