Mae'r pwyllgor llywio wedi dechrau torchi llewys yn y dasg enfawr sydd o'u blaenau, sef ceisio codi'r arian fydd ei angen ar gyfer cynnal yr Ymrysonfa dros dridiau.Mae Cadeirydd y Pwyllgor, Ieuan Williams, Efailnewydd, ynghyd â'r Trysorydd, Caren Jones, Llannor, yn dweud eu bod yn eitha hyderus y bydd pobol ardal Dwyfor yn eu cefnogi yn yr her.
'Mae angen codi o leia £20,000 yn lleol,' meddai Caren, 'ac o gofio bod gan drigolion yr ardal record ardderchog yn codi arian ar gyfer digwyddiadau cenedlaethol eraill, megis y 'Steddfod Genedlaethol, Eisteddfodau'r Urdd a'r Ŵyl Gerdd Dant, rydw i'n reit siŵr y bydd pobol yn cefnogi.'
Ac meddai Ieuan, 'Mae'r Ras 'Redig Genedlaethol newydd fod yma a honno'n un llwyddiannus, yn gredyd i'r tîm lleol fu wrthi'n trefnu. A dweud y gwir,' ychwanegodd, 'rydan ni fel pwyllgor yr Ymrysonfa Gŵn wedi dal yn ôl yn fwriadol cyn cychwyn ar ein hymgyrch godi arian rhag drysu'r criw Ras 'Redig. Wedi'r cyfan, lle bychan iawn ydi'r braich tir yma, ond rydw i'n reit ffyddiog y medrwn ni gyrraedd y nod.
'Mae aelodau'r pwyllgor wedi bod wrthi ers diwedd yr haf yn gwerthu tocynnau'r raffl sydd i'w thynnu ar nos Wen er, 15 Rhagfyr, mewn Ocsiwn Addewidion yn y Leion, Tudweiliog. Mae yna addewidion reit amrywiol, o sachaid tunnell o dywod adeiladu i dwrci! Rhywbeth at ddant pawb, cyfle i ambell un wneud eu siopa 'Dolig ella! Rhwng gweithgarwch y pwyllgor, cefnogaeth y cyrff cyhoeddus, a llawer o unigolion cefnogol eraill, megis Mr Lee, Tafarn y Leion, siawns nad Ymrysonfa 2008 fydd un o'r goreuon eto.'
Felly cofiwch am yr Ocsiwn Addewidion nos Wener, 15 Rhagfyr, yn y Lion Tudweiliog, yng ngofal yr arwerthwr, Iolo Ellis a John Huw.
Bydd Llywydd Cenedlaethol y Gymdeithas Gŵn Defaid, Mr Ellis Wyn Edwards, Rhuthun, yno'n ogystal i gefnogi ymgyrch y pwyllgor lleol. Ac os teimlwch ar eich calon fel cyfrannu rhodd i'w gwerthu ar y noson, ffoniwch Rhian ar (01758) 712653, neu Gareth ar 730750.