Caewyd y ffordd ddiwedd Rhagfyr 2000 ac mae hynny wedi peri anhwylustod mawr.Wedi hir aros daeth Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd i'r penderfyniad eu bod yn cymeradwyo'r cais i wyro'r ffordd o Groeslon Ty'n Parc, heibio i gefn Treheli a Sarn Plas, gan uno a'r ffordd bresennol ger Bryn Ffoulk. Byddai'r gwyriad yn 850 medr o hyd ac yn bedair medr a hanner o led ond cafwyd un gwrthwynebiad statudol ac roedd hynny yn arwain yn naturiol, yn ôl y ddeddf, at Ymchwiliad Cyhoeddus.
Roedd neuadd Y Rhiw yn llawn o gefnogwyr a gwrthwynebwyr a gwyr y wasg ar fore cyntaf yr ymchwiliad, sef dydd Mawrth, 29ain Mawrth, 2004. Mr. Stuart Wild oedd yr Arolygwr ac yno hefyd roedd Mr. Huw Williams, Pennaeth Gwasanaeth Ymgynghorol Cyngor Sir Gwynedd; Mr. lan Williams, Rheolwr Prosiect. Cyngor Sir Gwynedd; Dr. I. Statham, arbenigwr daearegol gyda chwmni Ovearup; Mr. Ph. Roden, arbenigwr amgylcheddol gyda chwmni Axis; Mr. M. Jarman, bargyfreithiwr yn cynrychioli Cyngor Sir Gwynedd a Ms. Sian Roberts, cyfreithwraig gyda Chyngor Sir Gwynedd.
Wedi i Mr. Wild gyflwyno trefn y gwrandawiad a chyflwyno aelodau'r ddwy ochr, aed ymlaen i gyflwyno'r gwrthwynebiad gan Mr. Gwydion Thomas, Sarn Plas a Ms. Sue Kennedy, Penrallt, Tudweiliog.
Ymwelwyd â'r safle bnawn Mawrth ac yna treuliwyd dydd Mercher a dydd lau yn holi a chroesholi'r ddwy ochr. Rhoddodd Mr. Wild gyfle teg i bawb ac ni fu unrhyw bwysau ar neb i fod yn frysiog. Roedd ôl gwaith ymchwil trwyadl yn amlwg iawn ar sylwadau'r ddwy ochr. Erbyn pnawn lau roedd yn amser clywed tystiolaeth gan fudiadau ac unigolion. Dywedodd Mr. John Morgan, ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mai eu penderfyniad nhw oedd peidio a defnyddio eu hawl statudol i wrthwynebu'r gwyriad gan eu bod o'r farn mai'r cynllun hwn oedd yr un lleiaf niweidiol i'r amgylchedd. Ac meddai'r Cynghorydd Sir, W. Gareth Roberts, sydd hefyd o blaid y gwyriad: "Er i mi ddarllen cyfrolau o dystiolaeth a gwrando'n astud trwy gydol yr ymchwiliad, does dim yn peri imi newid fy marn ynglŷn â theilyngdod y gwyriad arfaethedig".
Teimlad Doris Jones, ls-Gadeirydd Cyngor Cymuned Aberdaron, oedd: "Er mor bwysig yw'r goedlan, yr adar, ystlumod, malwod coch a'r buchod coch cwta y cyfeiriodd y gwrthwynebwyr atynt, ni allaf yn fy myw argyhoeddi fy hun ei bod yn bwysicach eu gwarchod nhw nag ydy hi i warchod cymdeithas Y Rhiw."
Gofidiai'r Cynghorydd lleol, D. Tecwyn Jones, fod rhai o'r tu allan i'r Rhiw, nad ydy cau'r ffordd wedi effeithio arnynt, wedi bod yn uchel eu cloch yn gwrthwynebu'r cynllun i gael ffordd newydd ir Rhiw, a phwysleisiodd bwysigrwydd cael y ffordd er mwyn diogelu dyfodol y gymuned.
Sylw Nesta Roberts, cynghorydd lleol a chadeirydd Partneriaeth Cymunedaun Gyntaf Pen Llŷn, oedd ei bod yn amlwg ym mhob arolwg lleol mai teimlad pobl yr ardal oedd fod angen ffordd newydd ar fyrder. Cefnogi'r gwyriad wnaeth Mr. Emlyn Jones, Bryn Fran; Mr. David Chatfteld, Rhiwenfa a "Mr. Mack", Tyddyn Morthwyl hefyd, gan roi eu rhesymau.
Pwysleisiodd Mr. J Arfon Huws, ar ran Cyfeillion Llŷn, mai'r Parch. R. S. Thomas ei hunan a sefydlodd y Cyfeillion, er mwyn gwarchod buddiannau trigolion ac economi Llŷn, yr iaith Gymraeg a'r amgylchedd yn Llŷn. "Wedi dwys ystyriaeth," meddai, "mae Cyfeillion Llŷn yn cefnogi buddiannau pentrefwyr Y Rhiw gan y teimlent mai dyna fyddai dymuniad eu sefydlydd, yn anad ystyriaethau eraill, yn y pen draw." Dau yn unig a siaradodd o'r llawr ar ran y gwrthwynebwyr, sef Ms. Joan Smith, Pwllheli a Ms. Sue Frisby, Bryn Ffoulk. Rhoddwyd cyfle i Ms. Smith roi crynodeb o'i barn ar gyfer yr erthygl hon wedi'r cyfarfod, ond ni ddaeth yn ôl gydag unrhyw sylw. Dywedodd Ms. Frisby ei bod "yn siomedig iawn fod cymaint o bwysau wedi cael ei roi ar rai gwrthwynebwyr i dderbyn cynllun Cyngor Sir Gwynedd" a theimlai nad oedd barn pawb wedi cael ei pharchu.
Roedd Ms. Kennedy yn awyddus i'r Llanw gyhoeddi'r canlynol (cyfieithwyd): "Fe allai datblygu'r ffordd newydd drwy'r goedlan greu difrod i amgylchedd naturiol yr ardal a hefyd greu problem yn ymwneud â sefydlogrwydd y tir. Erys o hyd ormod o gwestiynau heb eu hateb am yr amharodrwydd i ailagor y ffordd wedi i'r arbenigwyr ddweud ei bod yn ddiogel i wneud hynny".
Gwahoddwyd Mr. Gwydion Thomas i anfon ei sylwadau ar gyfer yr erthygl hon hefyd a bu iddo addo gwneud hynny, ond nid oedd unrhyw air wedi cyrraedd oddi wrtho fel roedd y Llanw'n mynd i'r wasg.
Braf oedd gweld pawb yn ysgwyd llaw ar ddiwedd yr ymchwiliad.
Wrth wrando ar y mân sgwrsio y tu allan i'r neuadd bnawn Gwener, y teimlad cyffredinol oedd ei bod yn drueni fod yr holl broses ddemocrataidd a ddilynwyd mor gostus i'r pwrs cyhoeddus. Edrychir ymlaen am y dyfarniad rŵan, a gobeithio y cawn ddweud: "Ffordd newydd gaed!"
Doris Ann Jones, W. Gareth Roberts, Nesta Wyn Roberts a Helen Jones