Mae 'na bobol yn cael jêl am lai.
Cofiwch
chi, mi fydd Anti Jîn yn dŵad yma i ddeud
helo ac agor y drws i mi.
Ond O!! Mi oeddan Nhw'n hir.
Hi Bos gymerodd yn 'i
phen i fynd i ryw Rhuthun ne' rwla ac i
ffwrdd a'r ddwy yn syth ar ôl cinio.
Mi
wyddwn i fod rwbath ar droed: on'd
oeddan nhw'n molchi a rigio ers ben bora?
A wedyn dyma Hi Sbecs yn fy hergydian i i
fyny'r lôn am dro.
Ew, doeddwn i ddim yn
cael amsar i smowta dim a honno'n tynnu
am adra .
Ta waeth, mi gyrhaeddodd y
ddwy'n ôl ac - er mwyn plesio - deud bod
pobol yn holi amdana i: rhyw Olwen a
rhyw Terry. Chwarae teg iddyn nhw.
Bora drannoeth dyma fi'n cael y dych
pan glywis i sŵn dyfroedd a gweld y
dillad gora allan eto.
"Hei ho," medda
fi, "chewch chi mo 'ngadael i heddiw eto'r
tacla!"
Felly mi lynis i fel gelan wrth ochor
Hi Sbecs a gneud golwg ddigalon amaf
fy hun. A 'chi be'? Mi weithiodd!!
"Fedrwn ni mo'i gadal hi heddiw eto:
bechod," medda Hi Sbecs mewn llais hen
ffasiwn.
Wel, i Fangor aethon ni. Waeth
gin i fanno ddim.
Mi fuos i 'n y car am sbe1
tra buon Nhw'n gwe1d ffariar pobol ac ro'n i'n cysgu'n braf pan glywis i lais Hi Bos yn deud Ty'd o'r bali lle 'ma am dy fywyd!" Ac i ffwrdd a ni fel slecs!
Ddyfalwch chi byth lle buos i: ia, mewn
caffi! Mi oedd 'na gastall mawr a môr
yno ac mi ges i ista efo'r ddwy i gael
cinio.
Ro'n i'n cael tamad - mymryn o
bysgodyn ne' ddarn o fechdan - dan y
bwrdd bob hyn a hyn yn slei bach.
Sôn am
frolio roeddan Nhw nes imi golli arnaf fy
hun yn lân a gweld homar o gi mawr du yn
mynd heibio.
Mi rois i blwc sydyn nes y
saethodd braich Hi Bos ar draws y bwrdd
a hitio'r cyllyll a'r ffyrc nes roeddan
nhw'n rhygnu hyd y llawr. "Gafal ynddi
hi," medda Hi Bos, "yn lle sbio fel llo ne
mi fyddwn ar 'n penna'n yr harbwr!"
Ond mae Hi Sbecs wedi arfar efo fy
antics i ac mi wyddai hi mai dim ond rhoi
rhyw gyfarchiad o gyfarthiad wnes i.
Dw
i'n siwr y basa'r ffariar pobol wedi'i chadw
Hi Bos yn y lle pobol sal 'na tasa fo wedi
gweld pa mor goch oedd 'i gwvnab hi!
Fuon ni ddim yn unman dros y Sul.
Mae
gen i ddigon o waith wardio'r petha pluog a
blewog hyd y cefna 'ma.
Ac mi glywis i Hi
Bos yn deud wrth Sbecs: "Paid A mynd a
Dorcas fach am dro. Mae hi fel Gehena
efo'r holl bobo1 'ma'''.
Ew, ro'n i'n falch o
glywad bynny. Fedra' i weld dim wrth
fynd i'r post dyddiau yma ond cŵn dearth a choesa blewog bobl nad ydw I'n ddallt dim gair o be' maen nhw'n ddeud.
"Hen betha sychion ydyn nhw," medda Sbecs: mi fydd hi'n deud "Bore da" a "Gwd morning" ond dim ond amball un sy'n atab hi.
Dwi I am fynd i sbio drwy'r ffenast rŵan I weld y "ffair lôn". Ella y gwela' I chi mewn Mownti cŵn ne' gaffi.
Dorcas(gyda help Anna Jones)
xxxxxx