| Ychydig o flynyddoedd yn ôl roedd grwpiau newydd yn cael eu geni
ym Methesda - grwpiau fel Maffia a Super Fury Animals. Wedyn mi ddaeth yn dro Blaenau Ffestiniog - gyda grwpiau fel Anweledig ac Estella. Bellach mae'n ymddangos mai Pen Llŷn yw deorfa grwpiau Cymraeg newydd. Ar Bandit, y rhaglen am fiwsig yr ifanc ar S4C yn ddiweddar, ymddangosodd Hefin Jones i sôn am y datblygiadau newydd. Mae 'na ganu'n digwydd yn rhywle bob penwythnos ar hyn o bryd gyda llefydd fel Y Fic yn Llithfaen, Yr Heliwr yn Nefyn, Tu Hwnt i'r Afon a Thŷ Newydd, Sarn, yn cynnal gigs gyda grwpiau ifanc Cymraeg yn rheolaidd. Mae Hefin ei hun yn awyddus iawn i grwpiau chwarae yn Nhafarn Tŷ Newydd, gyda chyfanswm o 13 o grwpiau am ymddangos yno yn ystod mis Mai. Sêr y rhaglen Bandit oedd Cowbois Rhos Botwnnog: tri o frodyr Yr Erw, Botwnnog, Iwan, Dafydd ac Aled Huws ydy'r Cowbois. Maent yn jamio efo'i gilydd ers blynyddoedd wrth gwrs ond fe wnaethant eu hymddangosiad cyntaf yn y Fic Llithfaen, flwyddyn yn ôl bellach. Mi wnaethant gryn argraff ar y rhaglen Bandit, ac mi roedden nhw'n edrych yn dda yn eu cotiau cochion a'r gaseg, Gwen, yn rhan o'r sioe.
 |