... ond wfftio'r fath syniad rhamantaidd a wna'r hen wraig. Rhyw syniad rhamantaidd digon tebyg oedd fy un innau am ffeiriau Nadolig y Cyfandir.
Mae traddodiad y ffeiriau Nadolig yn dyddio'n ôl i'r ail ganrif ar bymtheg pryd y cynhelid hwy ar y sgwâr o flaen eglwys y dref i ddenu'r addolwyr i wario. Deil traddodiad y marchnadoedd yng nghyfnod Yr Adfent, yn arbennig felly yn Yr Almaen lle cynhelir ugeiniau o farchnadoedd sydd erbyn hyn yn atyniad twristaidd mawr.
Ynddynt gwerthir llawer o fwydydd nodweddiadol: y stollen, cacen Nadolig sy'n oleuach na'n bara brith ni a rowlyn o
farsipan yn ei chanol; y lebkuchen, cacen fêl felys iawn; fferins marsipan a bara sunsur.
Roeddwn wedi deisyfu profi awyrgylch un o'r ffeiriau hyn ers blynyddoedd ond gan fy mod wedi fy nghyfyngu i gyfnod gwyliau ysgol roedd y daith bron yn amhosibl tan i mi sylweddoli bod wythnos gyfan o wyliau cyn y Nadolig yn 2005.
Dyma drefnu ar unwaith i fynd i farchnad yn Yr Almaen ac ar fore Sadwrn llwyd a rhynllyd ganol Rhagfyr roeddwn ym maes awyr Lerpwl yn blygeiniol yn
Disgwyl am awyren am Köln. Trên wedyn yn syth i ganol bwrlwm y ddinas honno y ddinas honno.
Erbyn canol y prynhawn roeddwn yn cerdded o'r orsaf, dan gysgod tyrau enfawr yr eglwys gadeiriol, yn gegrwth. Roedd y sgwâr yno yn orlawn o stondinau bychain pren wedi eu goleuo â miloedd o fylbiau trydan gwyn ac yng nghanol y cyfan coeden Nadolig enfawr a'r un bylbiau gwynion yn rhesi trosti.
Roedd cymaint i'w weld, 160 o stondinau yn sgwâr yr eglwys gadeiriol yn unig, yn gwerthu amrywiaeth eang o grefftau, gemwaith, addurniadau ac anrhegion Nadoligaidd. Roedd sŵn y stondinwyr a'r siopwyr yn fyddarol ond yn distewi yma ac acw wrth i garolwyr ddechrau canu ar gornel stryd neu wrth i'r band pres daro nodau cyfarwydd o falcon neuadd y ddinas. Yna yr holl arogleuon o'r stondinau bwyd oedd yn ddigon i dynnu dŵr o ddannedd unrhyw un.
Credwch fi, â'r tymheredd wedi hen basio'r rhewbwynt, doedd dim yn fwy derbyniol na gwydriad o glühwein. Gwin coch, cynnes wedi ei flasu a sinamon, nytmeg a chlofs oedd yn cael ei werthu yn y marchnadoedd a' i weini mewn mygiau crochenwaith ar siâp hosan Nadolig.
Mae chwe marchnad wahanol yn Köln a phob un ohonynt a'i nodweddion arbennig ei hun. Marchnad yr eglwys gadeiriol a choeden Nadolig fwyaf y Rhineland yn ei chanol; marchnad ar long wedi ei hangori ar yr afon; marchnad Rudolfplatz a tho pob stondin wedi ei addurno a chymeriad Nadoligaidd neu a chymeriad o chwedlau'r Brodyr Grimm; marchnad
ganoloesol a'r stondinwyr wedi eu gwisgo yn nillad y cyfnod; cylch sglefrio iâ sy'n ganolbwynt i'r Alter Markt tra bo dau soldiwr pren anferthol yn gwarchod y giatiau i'r Neumarkt.
Gwibiodd y cyfnod yn Köln: yn rhyfeddu at yr holl firi a'r lliwiau
o'm cwmpas; yn blasu'r holl fwydydd gwahanol; yn gwrando ar garolau cyfarwydd mewn iaith estron ond eto yn cael fy atgoffa o stori'r Nadolig dro ar ôl tro gan y golygfeydd o stori'r geni oedd yn frith trwy'r ddinas. Do, mi ges i ddau ddiwrnod gwerth chweil yn Yr Almaen ac mi brofais innau fy 'Nadolig y Cerdyn'.
Doedd yno'r
un Nanw Shôn i dynnu gwynt o'm hwyliau, dim ffiars o beryg, roedd pawb yn rhy brysur yn eu mwynhau eu hunain yng nghanol y rhialtwch.
Gwenan Roberts