Dim llawer, mae'n debyg, ond dyma waith cyson Gwyn Jones, cymeriad sy'n fwy cyfarwydd i'r rhan fwyaf ohonom fel Gwyn Penlan. Er ei fod wedi gadael y dafarn arbennig honno ers 1997, fel Gwyn Penlan y mae pawb yn dal i'w nabod."Dyna fydda' i bellach mae'n siŵr. Roedd y blynyddoedd yn Penlan yn rai hapus iawn; roedd pawb yn arfar tyrru draw yno," meddai, wrth gymryd egwyl fach o'i waith prysur un pnawn Gwener.
Ers y Pasg mae'n gyfrifol am baratoi bwyd yn nhafarn y Llew Du a'r Clwb Hwylio ym Mhwllheli. Gorchwylion sy'n mynd a thipyn go lew o'i amser. "Dw i'n dechrau yn y bora tua hannar awr wedi wyth gan fynd a dwad rhwng y ddau le trwy'r dydd. Fel arfar mae'r diwrnod yn dwad i ben ychydig wedi hannar nos.
"Mae 'na ddigon o waith rhedag rhwng y ddau le, ond dw i wrth fy modd yn gwneud. Mae gin i gymaint o ffrindiau sy'n dwad draw i'r Llew Du, tra bo'r profiad o goginio yn y Clwb Hwylio yn beth newydd i mi. Dw i'n dysgu am yr amseroedd mae'r llongwrs yn disgwl eu bwyd: mae bob dim yn dibynnu cymaint ar y llanw yno."
Fydd Gwyn ddim yn cadw'r un prydau ar y fwydlen am hir: mae'n teimlo bod amrywio'r bwyd sydd ar gael yn cadw'r cwsmer yn hapus. "Wrth gwrs mae 'na rai hen ffefrynnau sydd ar gael o hyd, ond dw i ddim yn credu mewn cadw'r un fwydlen yn union am flynyddoedd; mae pobol yn diflasu. Mae newid y fwydlen yn golygu hod y cwsmar yn dwad yn ei ôl am fod ganddo fo gyfla i flasu rwbath gwahanol, ac mae o'n newid i minnau yn y gegin.
"Fel arfar, meddwl am faint o brydau i'w paratoi fydda' i; dyna ydy'r tric mewn tŷ tafarn: trïo amcangyfrif faint o bob pryd fydd pobol yn ei archebu. Mae hynny'n rwbath sydd yn dwad efo profiad, ond all rywun byth fod yn gwbwl siŵr."
Yn sicr, mae gan Gwyn beth wmbreth o brofiad erbyn hyn, gan ddechrau yn Penlan yn 1981, hynny wedi iddo fod yn astudio'r Gymraeg yn y brifysgol yn Abertawe. Dychwelodd i'r ardal wedi graddio: doedd ganddo ddim awydd aros yn y ddinas fawr am byth, meddai. "Roedd yr amsar yn y brifysgol yn gyfnod wnes i'i fwynhau'n arw, ond hogyn o Lithfaen fuos i erioed. Dyna sut ddois i i Penlan. Roedd fy nghyfnod i yno'n llawn hwyl: roedd hi'n dafarn mor boblogaidd a dim ar y penwythnosau'n unig chwaith; roedd y lle dan ei sang ar nosweithiau Merchar. Nos Sadwrn bach oedd pawb yn galw nos Ferchar bryd hynny," meddai a gwên.
Ond nid Penlan ydy'r unig dafarn y bu Gwyn yn gysylltiedig a hi. Yn wir bu ganddo gysylltiad â thair tafarn yn nhref Pwllheli am gyfnod yn y 1980au. "Roedd yna adag pan oeddwn i'n gyfrifol am y Whitehall a'r Llew Du hefyd, felly dw i wedi dwad yn ôl i un o'm hen dafarnau rywsut. Ond bryd hynny Penlan oedd fy nghartra i: yno roeddwn i bob dydd ac roedd gin i reolwyr yn gofalu am y ddwy arall," meddai a thinc atgofus yn ei lais.
Ac fel nifer o bobl yr ardal, gallaf innau dystio bod rhywbeth go arbennig am Penlan bryd hynny. Yno roedd pawb yn tyrru ar ddiwedd noson; doedd noson allan yn dre' ddim yr un fath os nad oeddach chi wedi bod am beint (neu ddau) yn Penlan.
"Roedd gen i un o'r casgenni gorau yng ngogledd Cymru bryd hynny. Doedd ond un lle yn Wrecsam i'w churo hi. Ond roedd awyrgylch arbennig yno hefyd: yno roedd y werin yn dwad; roedd hi'n dafarn gymunedol," meddai.
Yna, pan ddaeth ei gyfnod yn Penlan i ben, aeth draw i weithio yng nghegin tafarn Tu Hwnt i'r Afon yn Rhydyclafdy. Dywedodd ei fod wedi magu hyder aruthrol fel cogydd tra oedd o yno. "Mi ddysgais i gymaint tra'n gweithio efo Bryn (Roberts) yn Twnti. Mae gin i ddylad fawr iddo fo. Mae gweithio yn y gegin efo rhywun fel Bryn yn rhoi cymaint o ffydd i rywun."
Wedi hynny bu'n rhedeg tafarn y Fic yn Llithfaen am ryw ddwy flynedd, cyn symud i lawr yr allt i Gaffi Meinir, Nant Gwrtheyrn. Yno bu'n paratoi bwyd ar gyfer yr holl ddysgwyr a fu'n aros yn y Nant, yn ogystal a phobol leol: roedd Caffi Meinir dan ei sang efo pobol Pen Llŷn bob amser cinio dydd Sul.
"Bu'r amsar yng Nghaffi Meinir yn ddifyr iawn ac mi wnes i lawar iawn o ffrindiau, ond rhaid deud bod y Nant yn gallu bod yn le unig iawn. Aros dros dro oedd y dysgwyr i gyd; mynd a dwad. Doedd' na neb arall yn byw yna.
"Wedyn mi ddois i'n ôl i'r Llew Du. Mae'n dafarn fywiog ac mae'n braf bod cymaint o hogiau lleol yn dwad draw. Y nos Wenar gynta' ro'n i yma mi wnes i baratoi swpar cymunedol a dw i ' di dechrau rwbath ers hynny; does dim posib newid rŵan. Mae criw o ryw saith deg yn dwad yma ar nos Wenar ac mae'n braf gallu paratoi ryw lobsgows neu gyri i'r hogiau i'w fwynhau efo peint ar ddiwadd wythnos galad. Maen nhw'n gofyn ar nos Ferchar beth sydd i swpar nos Wenar, wedyn mae o'n rwbath iddyn nhw edrach ymlaen ato."
Yma eto, mae cinio dydd Sul Gwyn yn boblogaidd iawn hefyd, a dyna'i gyfrinach: bwyd cartref traddodiadol. Does dim bwyd parod yng ngheginau Gwyn. "Dw i'm yn credu yn y sothach 'ma sy'n barod mewn dau funud," meddai.
"Mae'n rhaid aros am fwyd da. Mae rhai prydau'n cymryd oriau maith i'w paratoi, ond mae'n werth aros amdanyn nhw! Mae paratoi'n hollbwysig ac mi fydda' i'n dechrau amball i beth yn y bora. Mae pobol yn dal i fwynhau bwyd traddodiadol. Bwyd Mam fydda' i'n 'i alw fo. Dyna'r math o fwyd dw i'n ei baratoi, a dyna'r bwyd sydd wedi bod yn boblogaidd ym mhobman lle dw i ' di bod yn coginio."
Ond dydy pawb ddim yn gwirioni'r un fath. "Dw i'n cofio paratoi bwyd ar gyfar priodas ryw dro a'r gŵr a'r wraig, yn lle cael cacan briodas draddodiadol, wedi gofyn am dwmpath o fyffins - ac yn lle torri'r gacan dyne lle roeddan nhw'n torri un myffin bach! Pawb a'i bethau," meddai wrth ddychwelyd at y gwaith prysur yng nghegin y Llew Du. Cofiwch fod y swper nos Wener yn aros i'w baratoi!
Carwyn Meredydd